
Cylch nesaf cyllid Gwella Sir Benfro yn gwahodd Mynegiadau o Ddiddordeb
Next round of Enhancing Pembrokeshire funds open for Expressions of Interest
Mae cylch cyllid 2025-2026 Gwella Sir Benfro ar agor ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb.
Ar ôl i Gyngor Sir Penfro gychwyn Grant Gwella Sir Benfro - a ariennir gan bremiymau treth gyngor ail gartrefi - mae mwy na £5.5 miliwn wedi'i rannu â chymunedau.
Nod y grantiau yw cefnogi ardaloedd yr effeithir yn fawr arnynt gan berchnogaeth ail gartrefi.
Mae cylch cyllid 2025-2026 yn cynnig tua £167,000, a gafwyd o bremiwm treth gyngor ail gartrefi y cyngor, ar gyfer grantiau bach hyd at £15,000.
Gwahoddir Mynegiadau o Ddiddordeb rhwng 1 Medi 2025 a 26 Medi 2025.
Rhaid derbyn yr holl Fynegiadau o Ddiddordeb erbyn 11am ar 26 Medi.
Croesewir ymholiadau gan grwpiau cymunedol cyfansoddiadol, elusennau, mentrau cymdeithasol, a Chynghorau Tref a Chymuned.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: "Mae cronfa Gwella Sir Benfro wedi gweld mwy na £5 miliwn yn cael ei roi yn ôl i gymunedau yr effeithir arnynt gan ail gartrefi ac mae'n rhan bwysig o wella'r ardaloedd hyn i drigolion.”
Mae rhagor o fanylion am y grant hwn ar wefan y Cyngor.
I ofyn am ffurflen mynegi diddordeb, anfonwch e-bost at enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk