
Cymeradwyo cynlluniau buddsoddi sylweddol mewn addysg yn Aberdaugleddau
Approval for significant education investment plans in Milford Haven
Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer gwella ysgolion yn Aberdaugleddau gan gynnwys yr opsiynau a ffefrir i ailddatblygu a sefydlu ysgol Gymraeg 3-11 oed.
Aberdaugleddau gan gynnwys yr opsiynau a ffefrir i ailddatblygu a sefydlu ysgol Gymraeg 3-11 oed.
Cynigir codi adeilad ysgol gynradd ac uwchradd newydd ar safle'r ysgol uwchradd bresennol, gyda rhywfaint o rannu gwasanaethau fel cegin ac ardaloedd chwaraeon, ynghyd â chanolfan Dechrau'n Deg â 40 o leoedd a Chanolfan Adnoddau Dysgu uwchradd â 36 o leoedd.
Mae hyn yn disodli opsiynau blaenorol ar gyfer adnewyddu Ysgol Aberdaugleddau ac Ysgol Gynradd Aberdaugleddau.
Bydd Achos Amlinellol Strategol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ysgol cyfrwng Cymraeg 3-11 oed yn Aberdaugleddau.
Cyfanswm cost yr opsiynau a ffefrir yw amcangyfrif o £141,598,965, gyda £46.5miliwn i'w ariannu gan raglen Gyfalaf Cyngor Sir Penfro.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham yn y cyfarfod ar 7 Gorffennaf: “Mae ailddatblygu Ysgolion Aberdaugleddau yn cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf yn ystad ysgolion a wnaed gan y Cyngor. Bydd yn mynd i'r afael â phryderon sylweddol ynglŷn â chyflwr y ddwy ysgol bresennol a bydd yn galluogi Ysgol Gynradd Aberdaugleddau i weithredu ar un safle.
“Bydd cyd-leoli'r ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg yn dod ag economïau o raddfa trwy gyfuno cyfleusterau penodol a bydd yn rhoi cyfle i ddatblygu ysgol 'gydol oes' os dymunir ar ryw adeg yn y dyfodol.
“Bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn mynd i'r afael â'r galw sy'n amlwg yn ardal ehangach Aberdaugleddau a bydd yn galluogi dalgylch Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd i gael ei ymestyn tua'r gogledd a'r dwyrain, gan wneud cyfraniad sylweddol at gyrraedd y targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.”
Cefnogodd y Cabinet y cynigion yn unfrydol gan groesawu’r buddsoddiad yn Aberdaugleddau.
Ychwanegodd yr aelod lleol a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae hwn yn ddiwrnod gwych. Mae’n hen bryd ein bod yn bwrw ymlaen â hyn, all yr ailddatblygu ddim dod yn ddigon cyflym."