Cymorth Prynu Sir Benfro wedi'i ymestyn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus
Homebuy Pembrokeshire extended following successful pilot
Mae Cymorth Prynu Sir Benfro, cynllun perchnogaeth cartrefi fforddiadwy Cyngor Sir Penfro, wedi cael hwb sylweddol yn dilyn cymeradwyaeth unfrydol gan Aelodau'r Cabinet i barhau ac ehangu'r rhaglen ar ôl peilot 12 mis llwyddiannus.
Mae Sir Benfro yn wynebu heriau sylweddol o ran fforddiadwyedd tai, yn enwedig i brynwyr tro cyntaf sy'n ceisio prynu cartref yn y sir. Mae Cymorth Prynu Sir Benfro yn helpu i oresgyn y rhwystrau hyn drwy ddarparu benthyciad ecwiti sy'n pontio'r bwlch rhwng benthyciadau morgais sydd ar gael a chost eiddo addas.
Mae'r cynllun yn galluogi prynwyr cymwys i gael mynediad at berchnogaeth cartref gan gadw'r cyfle i elwa o unrhyw fuddsoddiad ariannol yn yr eiddo yn y dyfodol.
Gan ddefnyddio profiad mentrau tebyg mewn mannau eraill, datblygodd Tîm Tai Cyngor Sir Penfro gynllun lleol i helpu i oresgyn yr heriau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf sy'n ceisio prynu cartref sy'n diwallu eu hanghenion mewn ardal o'r sir lle mae ganddynt gysylltiad lleol.
Peilot llwyddiannus 12 mis
Cyflwynwyd Cymorth Prynu Sir Benfro fel prosiect peilot ym mis Mehefin 2025 a'i gefnogi gan £1 miliwn o gyllid a gynhyrchir drwy'r Premiwm Treth Ail Gartrefi y Cyngor. Nod y cynllun yn wreiddiol oedd cynorthwyo hyd at 15 o aelwydydd yn ystod ei flwyddyn gyntaf.
Mae'r cynllun peilot wedi rhagori ar y disgwyliadau yn ei 12 mis cyntaf, gan gefnogi 18 o aelwydydd i brynu cartrefi yn Sir Benfro, gyda chyfanswm buddsoddiad o £814,000.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr i'r cynllun ddangos cysylltiad lleol â Sir Benfro, bodloni meini prawf incwm ac eiddo penodol, a dangos eu bod yn gallu cynnal yr ymrwymiadau ariannol sy'n gysylltiedig â pherchnogaeth cartref.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Mae Cymorth Prynu Sir Benfro wedi darparu cyfle pwysig i brynwyr lleol gael mynediad at gartrefi addas sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'r cynllun wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i aelwydydd ledled y sir ac mae'n cefnogi ymrwymiad ehangach y Cyngor i gynyddu dewis tai a gwella mynediad at dai fforddiadwy."
Buddsoddiad parhaus
Yn dilyn cymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet, bydd y cynllun yn parhau gyda nifer o welliannau sydd wedi'u cynllunio i adlewyrchu newidiadau mewn amodau benthyca morgeisi a'r farchnad dai, gan adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn gyntaf.
Cadarnhaodd Aelodau'r Cabinet hefyd, yn amodol ar gyflawniad boddhaol, y bydd Cymorth Prynu Sir Benfro yn derbyn £2 filiwn arall o gyllid dros y ddwy flynedd nesaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bateman: "Mae hyn yn dangos yn glir sut y gellir defnyddio incwm a gynhyrchir drwy Premiwm Treth Ail Gartrefi y Cyngor i gefnogi cyfleoedd tai yn Sir Benfro. Mae Cymorth Prynu Sir Benfro yn helpu pobl sydd â chynilion a mynediad at gyllid morgais, ond nad ydynt yn gallu sicrhau cartref addas oherwydd amodau heriol y farchnad."
Dywedodd un aelwyd a elwodd o'r cynllun: "Mae defnyddio'r cynllun i brynu eiddo wedi helpu fy nheulu yn fawr gan ein bod wedi gallu bod yn berchen ar eiddo, yn ogystal â chreu lle i ni dyfu.”
Bydd Cymorth Prynu Sir Benfro yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gefnogi perchnogaeth tai fforddiadwy a chryfhau ymrwymiad ehangach y Cyngor i ddarparu ystod o opsiynau tai fforddiadwy ledled y sir.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ewch i www.sir-benfro.gov.uk/tai/cymorth-prynu-sir-benfro, e-bostio affordable.housing@pembrokeshire.gov.uk, neu ffonio 01437 764551.