
Cyngor pwysig i fusnesau bwyd lleol am alergenau mewn diodydd poeth
Important advice about allergens in hot drinks issued to local food businesses
Yn dilyn samplu coffi di-laeth yn ddiweddar gan dîm Safonau a Diogelwch Bwyd y Cyngor mae canllaw defnyddiol wedi’i gynhyrchu i roi cyngor.
Dangosodd dadansoddiad o samplau diodydd gan labordy achrededig fod 83% yn cynnwys olion o laeth a 67% yn cynnwys digon o brotein llaeth i achosi niwed difrifol neu hyd yn oed farwolaeth i rywun ag alergedd llaeth.
Roedd y diodydd a samplwyd o ddetholiad o safleoedd manwerthu ac arlwyo ac fe’u harchebwyd fel rhai a oedd yn addas ar gyfer rhywun ag alergedd llaeth.
Yn dilyn y canlyniadau, mae aelodau'r tîm wedi ymgysylltu â’r busnesau yr effeithiwyd arnynt i ymchwilio i achosion posibl yr halogiad a rhoi cyngor iddynt ar reolaethau alergenau.
Mae'r tîm hefyd wedi cynhyrchu taflen newydd i roi cyngor i berchnogion busnesau bwyd i sicrhau bod y rheolaethau cywir yn cael eu gweithredu wrth baratoi diodydd heb alergenau.
Mae llaeth di-laeth wedi cynyddu mewn poblogrwydd ac yn aml gofynnir amdanynt gan ddefnyddwyr fel dewis yn hytrach nag angenrheidrwydd dietegol, ond i rywun ag alergedd gall ychydig bach o brotein llaeth achosi niwed difrifol a hyd yn oed fod yn angheuol mewn rhai achosion.
Gallai fod llawer o ffynonellau posibl o halogi llaeth mewn safle bwyd prysur, o’r clytiau a ddefnyddir i lanhau’r bibell stêm, i ddiheintio offer yn anghywir fel jygiau sydd wedi cynnwys llaeth buwch yn flaenorol.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi adrodd bod gan oddeutu 6% o'r boblogaeth sy’n oedolion yn y DU alergedd bwyd a gadarnhawyd yn glinigol, ac mae gan weithredwyr busnes bwyd ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod y bwyd y maent yn ei ddarparu i bob cwsmer yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Bydd swyddogion yn parhau i drafod rheolaethau alergenau yn ystod yr holl archwiliadau arferol o safleoedd bwyd, a bydd camau priodol a chymesur yn cael eu cymryd os nad yw busnes yn cydymffurfio â gofynion alergenau.
"Anogir unrhyw un sy'n dioddef o alergedd bwyd i gael sgwrs gyda gweithredwr busnes bwyd cyn rhoi unrhyw archebion i sicrhau bod yr alergedd yn cael ei ddeall ac i alluogi'r busnes i gymryd camau priodol i leihau croeshalogi."