English icon English
Marquee 2-2

Cyngor Sir i arddangos gwasanaethau yn Sioe Sir Benfro

Council to showcase services at the Pembrokeshire County Show

Mae Sioe Sir Benfro yn ôl unwaith eto — a bydd digwyddiad eleni ar 16 a 17 Awst yn golygu bod yr Awdurdod yn darparu siop un stop o gefnogaeth a gwybodaeth.

Am y tro cyntaf, bydd gan Gyngor Sir Penfro un babell fawr, a bydd timau o bob rhan o'r awdurdod yno yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, recriwtio, gwastraff ac ailgylchu, a llawer mwy.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i gwrdd ag Aelodau'r Cabinet a'r Prif Weithredwr a chael gwybod am lu o brosiectau diddorol ac arloesol sy'n digwydd ar draws y sir.

Bydd y babell fawr gyferbyn â'r modrwyau neidio a marchogaeth ym Mharth A (llain 9).

Fel dathliad o fywyd gwledig y sir, mae'r sioe yn llwyfan perffaith i ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr, meddai Prif Weithredwr y Cyngor, Will Bramble.

“Mae ein timau'n gyffrous am gwrdd ag ymwelwyr â'r sioe a chael cyfle i ddangos yr hyn maen nhw'n ei wneud - a thynnu sylw at y cyfoeth o gefnogaeth sydd ar gael ynghyd â'r ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd gennym ni i'w cynnig,” meddai.

“Yn dilyn llwyddiant sioe'r llynedd, rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu unwaith eto â chymunedau gwledig ac ehangach y sir wych hon.

“Mae’r Sioe Sirol yn lle perffaith i ddathlu'r cynnyrch anhygoel sydd gennym ni i'w gynnig — ac i gwrdd â ffrindiau hen a newydd. Dewch i ymweld â'n pabell a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael a'n prosiectau trawsnewidiol, a fydd yn gwella bywydau ein cymunedau a'n hymwelwyr. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi.”

Ymhlith y timau eraill sy'n bresennol mae'r prosiect band eang, Diwydiannau Normanaidd a Sir Benfro Werdd. Yn ogystal, gall Gofal Maeth, Cymorth i Ofalwyr a'r tîm recriwtio eich cynghori ar sut i ddechrau eich gyrfa mewn gofal cymdeithasol ac ymuno â'r tîm gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn ein cymunedau.

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, Y Cynghorydd Paul Miller: “Mae Sioe'r Sir yn ddathliad poblogaidd a phwysig o fywyd gwledig yn Sir Benfro, ac rydym ni’n falch iawn o fod yn rhan o'r digwyddiad unwaith eto. Bydd ein staff a'n haelodau yn sgwrsio â llawer o bobl o gymunedau ledled Sir Benfro: cofiwch alw heibio ein stond a dweud helo - rydym ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi. “

Am y newyddion diweddaraf a mwy o wybodaeth am wasanaethau’r Cyngor sy'n mynychu Sioe Sir Benfro, ewch i'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol:

www.facebook.com/CyngorSirPenfro

www.twitter.com/CyngorSirPenfro