
Cyngor Sir Penfro yn croesawu Cadeirydd newydd
Pembrokeshire County Council welcomes new Chairman
Cadeirydd newydd Cyngor Sir Penfro yw'r Cynghorydd Maureen Bowen.
Yn flaenorol yn Is-gadeirydd yr Awdurdod, penodwyd y Cynghorydd Bowen yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ddydd Gwener, 9 Mai.
Mae'r Cynghorydd Bowen yn aelod Llafur dros ward Bush Doc Penfro, ar ôl cael ei phenodi yn 2022. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r ward ar Gyngor Tref Doc Penfro. Mae hi'n cymryd rôl y Cadeirydd oddi wrth aelod Hundleton, y Cynghorydd Steve Alderman.
Roedd y Cynghorydd Bowen yn byw yn Ninbych-y-pysgod lle bu'n rhedeg busnes bach wrth fagu ei dau fab a fynychodd Ysgol Greenhill.
Ar ôl i'w phlant adael cartref, symudodd y Cynghorydd Bowen i Orllewin Canolbarth Lloegr lle dechreuodd ei gyrfa wleidyddol fel Cynghorydd Bwrdeistref Llafur ar Gyngor Bwrdeistref Stafford, lle bu'n gwasanaethu am 16 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y Cynghorydd Bowen yn aelod gweithgar o'r undeb llafur USDAW a chafodd ei hethol i'r cyngor gweithredol, gan fynychu dirprwyaethau masnach gartref a thramor yn y rôl honno, cyn dychwelyd i Sir Benfro.
Enwebwyd y Cynghorydd Bowen gan y Cynghorydd Paul Miller a’i eilio gan y Cynghorydd Joshua Beynon.
Wrth gymryd y cadwyni, dywedodd y Cynghorydd Bowen: "Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Penfro i gynrychioli'r sir wych hon, rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiad o fod yn aelod etholedig yn fy rhoi mewn sefyllfa dda i gynrychioli'r Sir gydag urddas a balchder."
Yn yr un cyfarfod etholwyd y Cynghorydd Delme Harries yn Is-gadeirydd newydd y Cyngor.