English icon English
county hall front main sign

Cyngor Sir Penfro yn cymeradwyo cynnydd o 7.5% yn y Dreth Gyngor

Pembrokeshire County Council approves Council Tax rise of 7.5%

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo ei gyllideb ar gyfer 2023-24.

Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn cyfarfod Cyngor Llawn ddoe (dydd Iau, 2il Mawrth).

Cymeradwyodd y Cyngor hefyd godiad yn y Dreth Gyngor o 7.5 y cant ar gyfer 2023-24, sy'n cyfateb i gynnydd o £1.80 yr wythnos ar gyfer eiddo Band D. Cyflwynwyd y cynnig gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Alec Cormack.

Cafodd gwelliant o 5.5 y cant, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Jamie Adams, ei wrthod.

Bydd y galw terfynol am Dreth y Cyngor yn cynnwys praeseptau gan Gynghorau Tref a Chymuned a Heddlu Dyfed Powys.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol, y Cynghorydd Alec Cormack: “Rwy'n credu mai'r cynnydd o 7.5% yn y Dreth Gyngor a gytunwyd arno oedd y cydbwysedd gorau rhwng cyfyngu'r cynnydd i filiau yn yr argyfwng costau byw ac osgoi'r toriadau mwyaf difrifol i wasanaethau'r cyngor. 

“Sir Benfro fydd â'r Dreth Gyngor isaf yng Nghymru o hyd yn 2023/24, felly byddwn yn gweld pwysau difrifol ar y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan fod gennym un o'r poblogaethau hynaf yng Nghymru.”

Cymeradwyodd aelodau'r Cyngor hefyd argymhelliad bod Premiymau'r Dreth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor yn cael eu cadw ar eu lefelau presennol ar gyfer 2023-24.

Fe wnaethant gefnogi argymhelliad y dylid dyrannu Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ar gyfer 2023-24, gyda'r Cyngor yn bwriadu parhau â'r defnydd hwn tan 2027-28, i ddarparu cyllid ar gyfer y rhaglen Tai Fforddiadwy, Grant Gwella Sir Benfro, ac elfennau o gyllideb y Cyngor sy'n ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Cymeradwyodd yr Aelodau hefyd y Rhaglen Gyfalaf ddangosol ar gyfer 2023-24 i 2026-27 a'r Strategaeth Gyfalaf 2023-24 i 2026-27.