Cyngor Sir Penfro yn cynllunio cyfnewidfa drafnidiaeth yng ngorsaf reilffordd Aberdaugleddau
Pembrokeshire County Council plans transport interchange at Milford Haven railway station
Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno ar £1.4m ychwanegol o gyllid cyfalaf, ochr yn ochr â chyllid grant, i gefnogi Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau.
Yn amodol ar gadarnhad o gyfraniadau ariannol pellach gan Lywodraeth Cymru, gallai'r gwaith ddechrau ar y safle'r flwyddyn nesaf a chael ei gwblhau yn 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail a'r cwmnïau trenau ers peth amser bellach ac rydym wrth ein boddau i allu cyflwyno'r cynigion hyn.
“Mae'r prosiect hwn yn bwysig ynddo'i hun ond mae hefyd yn alluogwr allweddol ar gyfer gwella cysylltedd rheilffyrdd yn sylweddol i Aberdaugleddau a Sir Benfro gyfan.
“Bydd y gwaith adnewyddu yn gwneud llawer mwy na dim ond gwella'r orsaf. Bydd hefyd yn caniatáu gwasanaethau amlach i Aberdaugleddau ac oddi yno.
“Yn ogystal â gwasanaethau amlach, rydym yn gweithio'n galed gyda Llywodraeth Cymru a'r DU yn ogystal â Great Western Railways i sicrhau bod gwasanaethau uniongyrchol, cyflym rhwng trefi a dinasoedd yn dychwelyd i'r dref ac mae'r prosiect yn cynnwys newid safle’r platfform i ganiatáu i Wasanaethau Cyflymder Uchel Hitachi wasanaethu Aberdaugleddau yn uniongyrchol.”
Mae'r cynllun yn cynnwys gwaith gwella i orsaf drenau bresennol Aberdaugleddau i greu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd trwy adleoli'r platfform rheilffordd presennol a darparu cyfnewidfa bysiau bwrpasol rhwng yr orsaf a'r ardal manwerthu, ynghyd â safle tacsi, maes parcio ffurfiol, mannau cyhoeddus a gwell cysylltiadau Teithio Llesol.
Bydd y cynllun hefyd yn gweithio ar y cyd â mentrau'r Awdurdod Porthladd i wella mynediad ar droed ac ar feic i Ddoc Aberdaugleddau, gan annog twristiaeth a datblygu trefol ymhellach a chysylltiadau â'r ardal fanwerthu sy'n bodoli eisoes yn y dref.
Ychwanegodd yr Aelod Lleol a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau i Drigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Os caiff y cais hwn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd yn newyddion gwych i Aberdaugleddau a bydd yn cyfrannu at gynyddu a gwella cysylltedd trafnidiaeth i'r rhai sy'n ymweld â'r dref ond yn bwysicach i drigolion yr ardal.
“Mae'r gwaith cysylltiedig yn rhan o'r cynllun i wella mesurau diogelwch a pharcio yn ogystal â darparu canolbwynt ar gyfer cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus gyda gwasanaethau bysiau mawr eu hangen yn ein tref."
Bydd y cynllun, os caiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Penfro.
Cafodd pecyn dylunio drafft ei ddatblygu a'i gyflwyno i Network Rail ym mis Rhagfyr 2023 gyda dyluniad diwygiedig yn barod i'w ailgyflwyno.
Cymeradwyodd y Cabinet y bwriad i gynnwys Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Aberdaugleddau fel rhan o gais Grant Cynigion y Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer 2025/26 am swm o £6 miliwn i barhau i ddatblygu a chyflwyno'r prosiect yn raddol.
Mae'r Cabinet wedi ymrwymo cyfanswm o £1.4 miliwn o gyllid cyfalaf yn ystod 2025-26 a 2026-27.
Dywedodd Henry Tufnell, AS Canolbarth a De Sir Benfro: "Mae'n wych gweld newidiadau yn cael eu gwneud i Orsaf Drenau Aberdaugleddau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus dda a chyfleusterau cysylltiedig yn hanfodol i gymunedau yn Sir Benfro. Rwy'n falch weithio ochr yn ochr â'r Cyngor a Llywodraeth Cymru i gael effaith gadarnhaol ar Aberdaugleddau."