English icon English
Cllrs Michelle Bateman and Chris Williams with Persimmon homes staff

Cyngor Sir Penfro yn sicrhau 21 o gartrefi fforddiadwy newydd yn Sandy Hill, Saundersfoot

Pembrokeshire County Council secures 21 new affordable homes at Sandy Hill, Saundersfoot

Cafwyd caniatâd y Cabinet i ymrwymo i gontract gyda Persimmon Homes Ltd i adeiladu 21 o gartrefi fforddiadwy ar safle Sandy Hill yn Saundersfoot.

Bydd y cytundeb yn gweld 12 o fflatiau 1 ystafell wely, 6 o dai 2 ystafell wely, a 3 cartref 3 ystafell wely yn cael eu hadeiladu a'u trosglwyddo i Gyngor Sir Penfro fel rhan o'r rhwymedigaeth gynllunio ar gyfer y safle.

Mae'r safle yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd a disgwylir i nifer fach o unedau marchnad agored fod yn barod yn 2025/26.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman: "Rydym yn falch iawn o bartneru gyda Persimmon, gan gymryd 21 o gartrefi newydd yma yn Ger y Môr, gan helpu i ddarparu cartrefi diogel i bobl leol yn Sir Benfro.

“Mae prynu'r eiddo hyn fel tai cymdeithasol yn un o ystod o opsiynau tai fforddiadwy yr ydym yn eu cynnig i gefnogi teuluoedd ac unigolion ag anghenion tai amrywiol. Mae'r pryniannau yn Ger y Môr yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy lleol ac adfywio ein cymunedau lleol.”

Ychwanegodd yr Aelod Lleol dros Saundersfoot, y Cynghorydd Chris Williams: "Mae Persimmon wedi dangos ei fod yn ddatblygwr gwirioneddol leol sydd wedi ymgysylltu'n briodol â chymuned Saundersfoot ar y datblygiad hwn, ac mae'n hynod gadarnhaol y byddant yn helpu pobl leol ar y rhestr aros am dai drwy bartneru â'r Cyngor drwy'r cytundeb hwn.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar housingCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu edrychwch ar dudalen Facebook yr Adran Dai.