Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â sbwriel, baw cŵn a throseddau amgylcheddol eraill
Council takes positive action to tackle littering, dog fouling and other environmental crime
Mae Cyngor Sir Benfro yn cymryd camau cadarnhaol i helpu i gadw ein sir yn lle glân a phrydferth i fyw, gweithio ac i ymweld ag ef.
Mae WISE (Cefnogi a Gorfodi Ymchwiliadau Gwastraff) wedi derbyn y contract i gyflawni gwaith gorfodi troseddau amgylcheddol ledled Sir Benfro.
Mae WISE yn gontractwyr profiadol sy’n gwneud gwaith gorfodi ar ran nifer o Awdurdodau Lleol ledled y DU.
Bydd patrolau yn dechrau yn Sir Benfro yr wythnos hon.
Gall swyddogion gorfodi WISE roi Hysbysiadau Cosb Benodedig am droseddau gan gynnwys:
- Taflu sbwriel
- Tipio anghyfreithlon
- Cŵn yn baeddu
- Graffiti a phostio anghyfreithlon
- Torri is-ddeddfau yn ymwneud â chŵn ar draethau
Mae lefel yr Hysbysiadau Cosb Benodedig yn amrywio rhwng troseddau, ond bydd trosedd o daflu sbwriel yn arwain at roi Hysbysiad Cosb Benodedig o £150, a gaiff ei ostwng i £75 os caiff ei dalu o fewn 10 diwrnod calendr.
Bydd Hysbysiad Cosb Benodedig o £150 (£75 os caiff ei dalu o fewn 10 diwrnod) yn cael ei roi lle gwelir nad yw cerddwr cŵn wedi glanhau ar ôl ei anifail anwes.
Ni fydd gan yr awdurdod unrhyw dargedau ar gyfer rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig ac ni fydd timau gorfodi yn cael unrhyw fonysau na chomisiwn yn seiliedig ar nifer yr Hysbysiadau Cosb Benodedig a roddir. Y nod yw ysgogi newid mewn ymddygiad a chydymffurfiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Preswylwyr, y bydd y gwaith gorfodi yn mynd i’r afael â phroblem fawr sy’n effeithio ar fywydau pobl ac yn ymateb i bryderon Cynghorwyr Sir a chymunedau ar lefel troseddau amgylcheddol.
Dywedodd y Cynghorydd Sinnett: "Rhwng 2021 a 2022, derbyniodd y Cyngor adroddiadau am 2662 o droseddau amgylcheddol ac rydym yn gwybod mai dim ond cyfran fach iach yw’r rhai yr adroddwyd amdanynt.
"Fel pob Aelod o’r Cyngor, mae fy mewnflwch yn llawn negeseuon gan aelodau o’r cyhoedd sy’n pryderu am faterion fel baw cŵn, tipio anghyfreithlon a sbwriel.
"Rydyn ni’n gwybod bod y mwyafrif llethol o’n preswylwyr a’n hymwelwyr yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn rhoi eu sbwriel mewn biniau ac yn codi baw eu hanifeiliaid anwes ac rydyn ni’n diolch iddyn nhw am hynny.
“Yn anffodus, mae lleiafrif bach sy’n parhau i anwybyddu’r gyfraith. Ni waeth faint o arwyddion, ni waeth faint o finiau, ni waeth faint o ymgyrchoedd addysg.
"Does dim esgus dros barhau i ollwng sbwriel, gwrthod codi baw eich ci, tipio anghyfreithlon ac ati.
"Rydyn ni’n gobeithio, drwy gymryd camau gorfodi a rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig, y byddwn ni’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac yn gwneud i’r rhai a fyddai’n parhau i anwybyddu’r rheolau feddwl ddwywaith."
Gofynnir hefyd i bobl Sir Benfro ymuno â’r frwydr yn erbyn troseddau amgylcheddol drwy e-bostio Enviro-Crime@pembrokeshire.gov.uk gan dynnu sylw at feysydd sy’n achosi pryder y byddai modd eu hystyried ar gyfer patrolau.
Dywedodd John Dunne, Rheolwr Gyfarwyddwr WISE: "Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro.
“Mae WISE yn darparu amrywiaeth eang o ymchwiliadau amgylcheddol a gwasanaethau gorfodi yn genedlaethol ac, o ganlyniad i’n hymdrechion, rydyn ni wedi cyfrannu at leihau sbwriel ar y stryd a’r gost gysylltiedig o’i lanhau.
"Ein nod yw lleihau troseddau amgylcheddol yn y tymor hir a phatrolio’r sir mewn modd sy’n ‘seiliedig ar wybodaeth’ gan ddefnyddio technoleg geoffensio a chanolbwyntio ein rheolaethau ar fannau problemus sydd wedi’u nodi mewn cwynion ac adborth gan y cyhoedd.
"Byddwn ni’n gweithredu methodoleg gadarn ond cymesur bob amser er mwyn mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gymorth technegol gan gynnwys camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff a chyfrifiadur llaw a fydd yn cadarnhau pwy yw troseddwr honedig cyn rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig.
"Mae ein swyddogion wedi cael cyfarwyddyd i gyfathrebu’n agored â’r gymuned gyda’r nod cyffredinol o fod yn gynhwysol fel bod cymuned Sir Benfro yn gallu chwarae’i rhan yn y dasg sydd o’n blaenau."