Pembroke Dockyard

Cyngor yn cymryd y cam nesaf i gymeradwyo achos busnes terfynol y Porthladd Rhydd Celtaidd

Council takes next step to approve Celtic Freeport final business case

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn bwriadu sicrhau dyfodol economaidd cryfach i'r sir gyda chymeradwyaeth achos busnes terfynol y Porthladd Rhydd Celtaidd ddydd Iau 3 Hydref.

Mae'r Porthladd Rhydd yn gyfle newydd i helpu Cymru i barhau i ddatblygu economi gystadleuol, gynhwysol a chynaliadwy yn fyd-eang.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Paul Miller, Aelod Cabinet ar faterion Lle, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Bydd cymeradwyo ddydd Iau yn cynrychioli cam nesaf ein taith tuag at gyflawni'r Porthladd Rhydd Celtaidd,

Mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn rhan o'n cydweithrediad agos â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac mae wedi'i gynllunio i greu'r amodau cywir ar gyfer buddsoddi a thwf yma yn Sir Benfro ac ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru.

Mae graddfa’r cyfle i Ddyfrffordd Aberdaugleddau ac i Sir Benfro yn enfawr ac rydym yn benderfynol o sicrhau y byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae'r chwyldro ynni hwn yn ei gynnig i dyfu economi Sir Benfro, i sicrhau buddsoddiad ac i greu a chynnal swyddi.

“Yn genedlaethol, bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn rhyddhau potensial llawn y diwydiant gwyrdd yng Nghymru, gan gyflymu datgarboneiddio ein diwydiannau mwyaf carbon-ddwys a dod â chyfleoedd newydd i'n cymunedau."

Cynhelir y Cabinet ddydd Iau, 3 Hydref am 2:00pm a gall pobl wylio trwy weddarllediad.

Am fwy o wybodaeth am y Porthladd Rhydd Celtaidd, ewch i’r wefan.