English icon English
household waste / wastraff cartref

Cyngor yn dwyn achos llys dros bentyrrau o wastraff cartref

Council takes court action over piles of household waste

Mae Cyngor Sir Penfro wedi tanlinellu ei ymrwymiad i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag cael effaith andwyol ar fywydau pobl eraill a niweidio'r amgylchedd.

Fis diwethaf sicrhaodd y Cyngor Orchymyn Ymddygiad Troseddol yn erbyn Gavin James o 18 Vicary Crescent Aberdaugleddau ar ôl i'r diffynnydd anwybyddu gorchmynion dro ar ôl tro i gael gwared ar wastraff cartref a sbwriel oedd yn denu llygod mawr a fermin.

Ystyriwyd bod y pentyrrau o sbwriel yn bryder go iawn o ran iechyd y cyhoedd.

Mae'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol amhenodol yn gwahardd ymddygiad sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid trwy fethu â symud y gwastraff o'r eiddo.

Dyma'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol cyntaf a sicrhawyd gan wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor a gall methu â chydymffurfio â'r gorchymyn arwain at ddirwy neu gyfnod o hyd at bedair blynedd yn y carchar.

Dros nifer o flynyddoedd, mae James wedi gwrthod ymgysylltu â swyddogion y Cyngor ac wedi anwybyddu gorchmynion i gael gwared ar bentyrrau o wastraff a sbwriel.

Yn flaenorol, roedd sgipiau wedi cael eu darparu i James a'i deulu ac roedd y Cyngor wedi cyflogi contractwr preifat i gael gwared ar wastraff, ond yn fuan iawn gwelwyd rhagor o wastraff yn cronni.

Roedd James eisoes wedi anwybyddu Rhybudd Gwarchod y Gymuned a Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, yn ogystal â nifer o hysbysiadau o dan y Ddeddf Atal Difrod gan Blâu. Roedd ynadon hefyd wedi rhoi cyfres o ddirwyon.

Mae achosion o anhrefn cyhoeddus, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad bygythiol gan gynnwys chwarae cerddoriaeth uchel hefyd wedi effeithio ar bobl sy'n byw gerllaw.

Yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mercher 21 Awst, nid oedd James yn bresennol i glywed cyhuddiad o fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.

Canfuwyd bod yr achos wedi'i brofi yn ei absenoldeb a rhoddodd yr Ynadon Orchymyn Ymddygiad Troseddol i redeg am gyfnod amhenodol.

Gorchmynnwyd James i dalu dirwy o £300, ynghyd â gordal dioddefwr o £120 a chostau llawn o £2759.

Dywedodd Gaynor Toft, Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor: “Rwy'n llwyr gefnogi'r cais a’r penderfyniad i roi Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn yr achos hwn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i'w gyflawni.

“Mae'r methiant i ymgysylltu â swyddogion ac anwybyddu gorchmynion i gael gwared ar y gwastraff a’r perygl iechyd yn yr achos hwn yn syfrdanol.

“Bu sawl achlysur a chyfle lle y gellid bod wedi datrys y sefyllfa hon. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos na fyddwn yn caniatáu i breswylwyr anwybyddu rheolau a gorchmynion llys a pharhau i gael effaith andwyol ar fywydau pobl eraill.

“Pan fyddwn yn nodi ymddygiadau sy'n effeithio ar y gymuned, bydd y gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd, ochr yn ochr â chydweithwyr o Heddlu Dyfed-Powys ac aelodau o'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn ymateb ac yn mynd ati i ddefnyddio'r broses Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ymhellach lle bo hynny'n briodol.”