
Cynllun Parcio i helpu Pobl Anabl i gynnal eu hannibyniaeth yn ailagor
Parking scheme to help disabled people maintain their independence reopens
Mae cynllun i helpu pobl anabl i gael lle parcio ger eu heiddo os nad oes ganddynt ddreif neu garej y gellir ei ddefnyddio yn derbyn ceisiadau newydd.
Yn dilyn blwyddyn gyntaf lwyddiannus o weithredu, mae Cyngor Sir Penfro wedi ailagor ceisiadau ar gyfer Cilfachau Parcio i Breswylwyr Anabl (a elwid gynt yn Lleoedd Parcio i Bobl Anabl neu DPPPs).
Mae'r ffurflen gais ar gyfer Mannau Parcio i Breswylwyr Anabl bellach ar-lein a rhaid cyflwyno pob cais erbyn 5pm ddydd Gwener 5 Ebrill 2024.
Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais oni bai bod newid wedi bod yn eu hamgylchiadau. Mae ffurflen bapur ar gael ar gais.
Roedd deg cilfach ar gael yn ystod y flwyddyn gyntaf, a bydd deg cilfach arall ar gael yn 2024. Bydd y broses ymgeisio yn cymryd o leiaf chwe mis o'r cais i'w gwblhau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.
Bydd trwydded yn costio £20 y flwyddyn i ymgeiswyr llwyddiannus, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus newydd yn talu unwaith y bydd y gwaith ar y safle wedi'i gwblhau.
Dywedodd un ymgeisydd llwyddiannus yn 2023 fod y cynllun wedi "newid bywyd" a dywedodd: "Mae gallu parcio pan fyddwn ni’n cyrraedd adref wedi lleddfu rhywfaint o'r straen o fynd allan. Ni allwn ddiolch digon i'r rhai sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd. Mae'n wych cael y gofod hwn."
Dywedodd Jessica Hatchett, un o ddau Swyddog Mynediad Cyngor Sir Penfro a'r swyddog sy'n goruchwylio'r cynllun: "Rwy'n falch bod y cynllun yn dychwelyd am yr ail flwyddyn. Mae'n wych clywed gan ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd faint mae cael mynediad i gilfach barcio wedi eu helpu."
Er mwyn helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am ddarparu gilfach barcio, dim ond os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol y bydd ceisiadau'n cael eu hystyried:
- Mae gan yr ymgeisydd Fathodyn Glas sy'n ddilys am dair blynedd o'r dyddiad cyhoeddi.
- Mae'r ymgeisydd yn gyrru/yn cael ei yrru mewn cerbyd sy'n eiddo ac wedi'i gofrestru yng nghyfeiriad lleoliad arfaethedig y gilfach barcio anabl
- Nid oes gan yr ymgeisydd fynediad at garej neu ddreif y gellir ei ddefnyddio eisoes.
- Nid oes gan yr ymgeisydd fynediad i barcio oddi ar y stryd yn barod nac yn gallu darparu lle parcio oddi ar y stryd trwy glirio lôn / lle caled presennol.
Nid yw bodloni'r meini prawf uchod yn gwarantu y bydd cilfach barcio yn cael ei ddarparu; dim ond y bydd y cais yn cael ei asesu ar gyfer addasrwydd.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol hefyd oherwydd nifer y ceisiadau a ddisgwylir, y rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sydd ar gyfraddau budd-daliadau gwell/uwch, yn hytrach na chyfraddau safonol, canol neu is.
Bydd ymgeiswyr yn gallu uwchlwytho tystiolaeth gyda'u ffurflen gais ar-lein, ond ni ddylai neb ddarparu dogfennau gwreiddiol nac unrhyw dystiolaeth ychwanegol oni bai y gofynnir iddynt wneud hynny.
Ni fydd y Cyngor yn ystyried darparu Cilfach Barcio i Breswylwyr Anabl yn y lleoliadau canlynol:
- Yn y man troi mewn unrhyw cul-de-sac.
- Mewn unrhyw leoliad lle mae gwaharddiad neu gyfyngiad presennol ar barcio (gan gynnwys parcio gyda thrwyddedau), aros neu lwytho yn ei le neu'n cael ei ystyried gan y Cyngor.
- O fewn 10 metr i gyffordd ffordd.
- Mewn lleoliadau lle mae hanes o wrthdrawiadau sy'n gysylltiedig â gwelededd.
- Mewn safle a allai atal llif traffig arferol rhag digwydd.
- Mewn safle lle na fydd cerbyd sydd wedi'i barcio i’w weld i gerbydau teithiol fel ar dro.
- Ar briffordd heb ei fabwysiadu neu dir preifat.
- Mewn unrhyw ardaloedd eraill lle bernir bod diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei beryglu.
Mae'r ffurflen gais ar gyfer Cilfach Barcio i Breswylwyr Anabl yn fyw ar wefan Cyngor Sir Penfro yma: https://www.pembrokeshire.gov.uk/parking-in-pembrokeshire/disabled-persons-parking-places.
Gall ymgeiswyr hefyd ffonio Cyngor Sir Penfro ar 01437 764551 a gofyn am gopi papur o'r ffurflen gais.
Bydd ceisiadau'n cau am 5pm ddydd Gwener 5 Ebrill.