Cynlluniau ar gyfer Neuadd Farchnad Dinbych-y-pysgod yn symud ymlaen ar ôl ymgysylltiad llwyddiannus â'r gymuned
Plans for Tenby Market Hall move forward following successful community engagement
Mae cynlluniau i adfywio Neuadd Farchnad Dinbych-y-pysgod yn datblygu yn dilyn digwyddiad ymgysylltu llwyddiannus â'r cyhoedd a ddenodd ddiddordeb cryf ac adborth gwerthfawr gan drigolion, masnachwyr, busnesau a rhanddeiliaid.
Roedd y digwyddiad ymgysylltu yn gyfle pwysig i'r gymuned rannu ei safbwyntiau ar ddyfodol y Neuadd Farchnad hanesyddol. Mae'r adborth a gafwyd wedi ei adolygu'n ofalus ac mae bellach yn cael ei ymgorffori yn y cynigion sy'n datblygu, gan helpu i lunio cynlluniau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau a dyheadau lleol.
Yn ogystal â'r ymgysylltiad cyhoeddus ehangach, mae'r Cyngor wedi cynnal trafodaethau cynnar gyda masnachwyr Neuadd y Farchnad, gan roi cyfle i arddangos y dyluniadau sy'n datblygu a chasglu adborth cychwynnol cyn rhyddhau cynigion yn gyhoeddus. Mae'r ymgysylltiad cynnar hwn wedi helpu i sicrhau bod barn masnachwyr, sy'n chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant Neuadd y Farchnad yn y dyfodol, yn cael eu hadlewyrchu yn y cynlluniau sy'n esblygu.
Mae'r prosiect hefyd wedi cael hwb sylweddol trwy sicrhau buddsoddiad gan y Gronfa Ffyniant a Rennir (SPF), sy'n galluogi'r cam nesaf o ddatblygu dyluniadau. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi'r gwaith o baratoi cynlluniau manwl ac yn dangos ymrwymiad i gyflawni prosiect adfywio a fydd yn dod â manteision parhaol i ganol tref Dinbych-y-pysgod.
Mae'r Cyngor nawr yn paratoi i ryddhau'r dyluniadau yn yr wythnosau nesaf. Bydd y cynlluniau hyn yn rhoi darlun cliriach o'r cynigion sy'n dod i'r amlwg a byddant yn cael eu rhannu'n gyhoeddus i gasglu adborth pellach cyn i'r prosiect symud ymlaen i'r cam nesaf.
Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall "Roedd yn galonogol iawn gweld trigolion a masnachwyr yn bresennol ac yn rhannu eu syniadau a'u hadborth o ddechrau'r prosiect hwn. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy a bydd yn helpu i lunio dyluniadau sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau'r gymuned leol yn wirioneddol. Mae'r farchnad yng nghanol Dinbych-y-pysgod, ac rwy'n edrych ymlaen at ei gweld yn dod yn ganolbwynt hyd yn oed yn fwy bywiog i'r dref am flynyddoedd i ddod."
Bydd ymgysylltu â'r gymuned yn parhau i fod wrth wraidd y prosiect. Wrth i gynlluniau ddatblygu, bydd holiadur cyhoeddus pellach yn cael ei gyhoeddi, gan roi cyfle arall i breswylwyr, masnachwyr, rhanddeiliaid, ac ymwelwyr rannu eu barn a helpu i ddylanwadu ar y dyluniad terfynol.
Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda masnachwyr, trigolion, grwpiau cymunedol, a phartneriaid drwy gydol y broses ddatblygu i ddarparu Neuadd Farchnad ar ei newydd wedd sy'n diwallu anghenion y gymuned wrth sicrhau dyfodol cryf a chynaliadwy i'r adeilad hanesyddol pwysig hwn.
Bydd rhagor o wybodaeth am y cynlluniau a'r cyfleoedd ymgynghori sydd i ddod yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.