
Cynlluniau i ychwanegu cysylltiadau Teithio Llesol at lwybr poblogaidd i gymudwyr
Plans to add Active Travel links to popular commuter route
Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ar gynlluniau i gyflwyno cysylltiad di-gerbyd rhwng Johnston ac Aberdaugleddau gyda Gwelliannau Teithio Llesol Studdolph i Hen Ffordd Bulford.
Mae'r cynigion yn cynnwys adeiladu Llwybr Cyd-ddefnyddio rhwng Steynton a Johnston, gwelliannau i’r cyffyrdd a’r troedffyrdd ar hyd yr A4076, a datblygu ail gam Llwybr Cyd-ddefnyddio tuag at Aberdaugleddau.
Bydd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dechrau gyda gweithdy/sesiwn galw heibio ar 14 Chwefror 2025, rhwng 10:00 – 12:00, 13:00 – 16:00 a 18:30 – 20:00 yn Neuadd Gymunedol Steynton.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Penfro yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau a allai godi. Yn dilyn y digwyddiad undydd hwn, i'r rhai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn bersonol, bydd arolwg cyhoeddus ar-lein ar gael a gellir cael mynediad iddo, drwy: https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/ymgynghoriadau
Bydd yr arolwg ar-lein yn parhau i fod ar gael am 6 wythnos gan ddod i ben ar 28 Mawrth 2025 am hanner nos.
Er bod y Cyngor Sir yn annog ymatebion i'r ymgynghoriad drwy ein system ymgynghori ar-lein, bydd copïau papur o'r dyluniadau a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, ar gael yn Neuadd y Sir. Gellir cael copïau wedi'u postio ar gais drwy gysylltu â'r tîm ar y cyfeiriad e-bost uchod.
Yn dilyn ymlaen o'r cyfnod ymgynghori, bydd yr opsiwn/opsiynau terfynol a ffefrir yn cael eu nodi. Ni fydd yr opsiwn hwn a ffefrir yn cael ei gwblhau nes y cawn yr adborth gan y gymuned leol.