Cynlluniau teithio llesol yn Arberth – lleisiwch eich barn!
Active Travel plans in Narberth – your views wanted!
Mae arolwg ar-lein yn cael ei lansio i gasglu barn ar welliannau i rwydwaith teithio llesol Arberth.
Mae Tîm Strategaeth Trafnidiaeth Cyngor Sir Penfro yn ymgynghori ar welliannau yn y dref i helpu pobl i deithio ar droed, ar feiciau ac ar olwynion eraill trwy greu llwybrau cyd-ddefnyddio.
Mae hyn yn cynnwys dargyfeirio cerbydau nwyddau trwm i fynd heibio i ganol y dref oni bai eu bod yn danfon nwyddau'n lleol, er mwyn lleddfu ar dagfeydd.
Mae llwybr cyd-ddefnyddio ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn cael ei gynnig ar hyd rhan o Kiln Park Road yn ogystal â llwybr aml-ddefnyddwyr 6.5 milltir o hyd ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion o Arberth i Hwlffordd.
Mae swyddogion hefyd am gael adborth ar y gwaith sydd wedi'i wneud ar Ffordd Jesse sy’n cynnig mynediad gwell i gerddwyr/beicwyr i'r ysgol gynradd ac oddi yno.
Nod y cynigion yw creu llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng Arberth a Hwlffordd i annog teithio llesol cynhwysol, ac i greu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr a beicwyr.
Bydd sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield, Arberth, ar 26 Medi rhwng 10am a 12pm, 1pm i 4pm a 6.30pm i 8pm. Bydd yr arolwg ar-lein yn mynd yn fyw ar yr un diwrnod.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: “Mae cefnogi iechyd, llesiant a diogelwch trigolion Sir Benfro yn bwysig i’r awdurdod lleol ac mae teithio llesol yn gallu chwarae rhan hanfodol yn hynny. Bydden ni’n annog trigolion ac ymwelwyr Arberth i gymryd rhan yn yr arolwg diweddaraf hwn er mwyn helpu i lywio gwelliannau yn yr ardal.”
Mae’r cynlluniau arfaethedig ar gael i’w gweld ar ein gwefan. Mae copïau caled hefyd ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield ac yn Neuadd y Sir.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm trwy anfon neges e-bost i: majorschemes@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 764551.
Mae croeso i chi gwblhau'r arolwg cyfan neu dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i chi.
Bydd yr arolwg ar-lein hwn yn dod i ben ar 7 Tachwedd 2024 am hanner nos.