English icon English
picvieworiginal (2)

Cynllunio parti stryd ar gyfer y Coroni? Cofiwch wneud cais am gael cau’r ffordd

Planning a Coronation street party? Don’t forget to apply for a road closure

Ydych chi’n cynllunio parti stryd i ddathlu Coroni’r Brenin Siarl III ym mis Mai?

Os felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i dîm traffig Cyngor Sir Penfro am gael cau’r ffordd dros dro erbyn diwedd mis Mawrth.

Bydd Coroniad Ei Fawrhydi Y Brenin ac Ei Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 6 Mai 2023.

Bydd cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu’r achlysur hanesyddol hwn ar hyd Penwythnos y Coroni ar 6, 7 ac 8 Mai.

Mae hyn yn cynnwys Cinio Mawr y Coroni pan wahoddir cymdogion a chymunedau i rannu bwyd a chael hwyl gyda’i gilydd. 

Fel y gwnaeth ar gyfer Jiwbilî Blatinwm Y Frenhines ym mis Mehefin 2022, bydd y Cyngor yn casglu ynghyd yr holl geisiadau llwyddiannus am gael cau ffordd dros dro ar hyd Penwythnos y Coroni yn un gorchymyn.

Er mwyn caniatáu amser ar gyfer prosesu, mae’n rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn dydd Gwener 31 Mawrth.

Er mwyn ystyried cais am gael cau ffordd, darparwch y canlynol:

·       Enw’r ymgeisydd

·       Manylion cyswllt – cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

·       Lleoliad y digwyddiad – byddai angen iddo fod yn stryd/clos/ystad breswyl ac nid llwybr prifwythiennol

·       Dyddiad (nodwch 6, 7 neu 8 Mai) ac amserau’r digwyddiad arfaethedig

·       Cynllun – darparwch gynllun neu fraslun o’r man lle y dymunwch gynnal y digwyddiad

Mae’n rhaid i bob cais am gael cau ffordd dros dro gael ei anfon at Traffic@pembrokeshire.gov.uk erbyn 31 Mawrth fan bellaf.

Bydd addasrwydd ceisiadau’n cael ei asesu cyn rhoi caniatâd.

Yna, rhoddir gwybodaeth am sut i symud ymlaen a pha fesurau y bydd angen eu rhoi ar waith, fel arwyddion.

Sylwch y dylid cyflwyno cais dim ond pan ofynnir i’r digwyddiad gael ei gynnal ar y briffordd.

Gofynnir yn garedig i ymgeiswyr gysylltu â’u cyngor tref neu gymuned lleol cyn cyflwyno cais er mwyn sicrhau nad yw ceisiadau’n cael eu dyblygu.

Dylid hefyd nodi efallai y bydd angen rheoli traffig lle y bo’n briodol a bod cost yn gallu bod yn gysylltiedig â hyn.

Byddai angen i ddigwyddiadau ‘oddi ar y ffordd’ ar ardaloedd glaswellt, meysydd pentref, parciau chwarae ac ati gael caniatâd y tirfeddiannwr.