
Cynllunio parti stryd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop? Cofiwch wneud cais i gau'r ffordd
Planning a VE Day street party? Don’t forget to apply for a road closure
Ydych chi'n cynllunio parti stryd i ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop fis Mai? Os ydych, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais i gau’r ffordd dros dro i dîm traffig Cyngor Sir Penfro erbyn 24 Mawrth.
Mae pedwar diwrnod o ddathlu wedi'u cynllunio ar gyfer y DU rhwng 5 Mai ac 8 Mai gan gynnwys gorymdeithiau milwrol, awyrennau’n hedfan heibio, cyngherddau a gwasanaeth arbennig yn Abaty San Steffan.
Gwahoddir cymunedau hefyd i ddod at ei gilydd i ddathlu'r achlysur hanesyddol hwn a bydd y Cyngor yn hepgor ffi am wneud cais i gau ffordd. Byddai costau sy'n gysylltiedig ag unrhyw ofynion Rheoli Traffig yn daladwy gan ymgeiswyr.
Bydd y Cyngor yn casglu yr holl geisiadau llwyddiannus i gau ffyrdd dros dro at ei gilydd mewn un gorchymyn.
Er mwyn caniatáu amser ar gyfer prosesu, rhaid derbyn ceisiadau erbyn dydd Llun, 24 Mawrth.
Er mwyn ystyried cais i gau ffordd, rhowch:
- Enw'r ymgeisydd
- Manylion cyswllt - cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad llawn
- Lleoliad y digwyddiad – bydd angen iddo fod yn stryd/clôs/ystad breswyl ac nid prif lwybr teithio.
- Dyddiad (nodwch 5, 6, 7 neu 8 Mai) ac amseroedd y digwyddiad arfaethedig
- Cynllun - rhowch gynllun neu fraslun o ble rydych yn dymuno cynnal y digwyddiad
Rhaid anfon pob cais i gau ffordd dros dro i Roadclosures@pembrokeshire.gov.uk erbyn 24 Mawrth fan bellaf.
Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn addas cyn rhoi caniatâd.
Yna, rhoddir gwybodaeth am sut i fwrw ymlaen, bydd angen arwyddion clir i gau'r Briffordd Gyhoeddus. Byddai'n ofynnol i gwmni rheoli traffig roi cyngor ar yr hyn sy'n angenrheidiol a’r ymgeisydd fydd yn talu’r gost am hynny.
Sylwch y dylid cyflwyno cais dim ond pan ofynnir i'r digwyddiad gael ei gynnal ar y briffordd.
Gofynnir yn garedig i ymgeiswyr gysylltu â'u cyngor tref neu gymuned leol cyn cyflwyno cais i sicrhau nad oes mwy nag un cais am yr un ffordd.
Byddai digwyddiadau 'oddi ar y ffordd' ar rannau glaswelltog, meysydd pentref, parciau chwarae ac ati angen caniatâd perchennog y tir.