Mrs Lynne McCutcheon Pembrokeshire, His Majesty’s Lord-Lieutenant of Dyfed, Miss Sara Edwards and Lord-Lieutenant Cadet Aeron James.

Cynnal seremoni o Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Neuadd y Sir

Honours medal presentation ceremony held at County Hall

Rhannu:

Cynhaliwyd dathliad o Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) yn ddiweddar wrth i dderbynnydd ysbrydoledig o Sir Benfro gael ei chyflwyno â’r anrhydedd.

Cyflwynodd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi dros Ddyfed, Miss Sara Edwards, y BEM i Mrs Lynne McCutcheon mewn seremoni yn Neuadd y Sir y mis diwethaf.

Dyfernir y fedal am wasanaeth sifil neu filwrol haeddiannol sy’n deilwng o gydnabyddiaeth gan y Goron. Mae’n gwobrwyo cyfraniad lleol cynaliadwy neu waith arloesol, mawr ei effaith.

Cafodd Mrs McCutcheon Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaethau i blant difreintiedig yn Nepal ac India.

Cyflwynwyd y fedal i gydnabod ei 22 mlynedd fel un o ymddiriedolwyr ariannu a chadeirydd New Futures Nepal, gan drawsnewid bywydau plant difreintiedig, llawer ohonynt ag anableddau.

Darparodd ei harweinyddiaeth wirfoddol ofal, addysg a chyfleoedd, gan greu newid parhaol, grymuso pobl fwyaf agored i niwed Nepal, a gwella bywydau miloedd.

Dywedodd Mrs McCutcheon: ‘Mae’n anrhydedd fawr i mi dderbyn y wobr hon, ond mewn gwirionedd mae’n adlewyrchu ymdrechion llawer o bobl.

‘Rwy’n diolch o galon i gyd-ymddiriedolwyr, elusennau partner yn Nepal ac India, a’r holl roddwyr, gwirfoddolwyr, ffrindiau a theulu y mae eu cymorth wedi gwneud ein gwaith yn bosibl.’

Ychwanegodd: ‘Rwy’n derbyn y gydnabyddiaeth hon ar ran pawb sydd wedi ymddiried ynom ni i newid bywydau a dod â gobaith i’r rhai sydd fwyaf mewn angen yn Nepal.’

BEM June 25 (2)

Ymunodd ffrindiau a theulu Mrs McCutcheon â Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Delme Harries, ar gyfer y digwyddiad yn Siambr y Cyngor ar 22 Mehefin.

Dywedodd yr Arglwydd Raglaw: ‘Roedd yn fraint enfawr ac yn bleser mawr i gyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mrs Lynne McCutcheon, un o drigolion Sir Benfro, am ei blynyddoedd lawer o ymrwymiad i helpu plant a phobl ifanc difreintiedig yn Nepal. 

‘Mae ei hymroddiad i gefnogi a gwella bywydau’r bobl ifanc hyn, gan sicrhau bod ganddyn nhw i gyd ddyfodol gwell yn Nepal, yn wirioneddol ysbrydoledig. Rwy’n ei llongyfarch yn gynnes ar ei hanrhydedd cwbl haeddiannol.’

Yn cynorthwyo’r Arglwydd Raglaw yn ystod y seremoni roedd Cadét Sir Benfro yr Arglwydd Raglaw, Aeron James.