English icon English
golygfa o'r awyr o Ddoc Penfro

Cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei gymeradwyo

Green light for transformational Celtic Freeport bid

Mae consortiwm cyhoeddus-breifat y Porthladd Rhydd Celtaidd wedi ymateb i’r cyhoeddiad heddiw ei fod wedi’i roi ar y rhestr fer gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer statws porthladd rhydd.

Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru, gan greu dros 16,000 o swyddi newydd, gwyrdd a hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd. Mae’r cynnig gweddnewidiol yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn rhychwantu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom a’r diwydiant dur ledled de-orllewin Cymru.

Wrth wneud sylwadau ar ddewis y Porthladd Rhydd Celtaidd fel un o’r ymgeiswyr ar gyfer Porthladd Rhydd Cymru, dywedodd Roger Maggs MBE, Cadeirydd Consortiwm Cynnig y Porthladd Rhydd Celtaidd: 

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y ddau borthladd rhydd yng Nghymru yn cyflawni ar gyfer y wlad. Mae’r dyfodol yn gyffrous. Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi sbarduno diddordeb mawr ymhlith busnesau, cymunedau lleol, undebau llafur a’r byd academaidd i ddefnyddio’r ganolfan ddiwydiannol fwyaf yng Nghymru fel safle lansio i ddatblygu technolegau newydd a chyfleoedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy y dyfodol. Mae gan hyn y potensial i ddatgloi £5.5 biliwn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus i Gymru a chreu cyfleusterau hyfforddi ac arloesi newydd, ffatrïoedd a phorthladdoedd ynni gwyrdd ehangedig, yn ogystal â chyfadeiladau cynhyrchu tanwydd amgen newydd. 

“Bydd ein coridor buddsoddiad gwyrdd ac arloesi yn cynorthwyo i greu 16,000 o swyddi gwyrdd, a fydd yn newyddion da nid yn unig i Aberdaugleddau, Doc Penfro a Chastell-nedd Port Talbot, ond hefyd i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin, Abertawe, y Cymoedd a llawer o gymunedau eraill ledled Cymru.” 

Mae consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau. Mae safleoedd treth a thollau’r cynnig, sydd mewn lleoliadau strategol, yn rhychwantu bron i 250 hectar yn Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot.

picviewbig (4)

Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw y bu Cynnig y Porthladd Rhydd Celtaidd yn llwyddiannus yn newyddion gwych i Sir Benfro, Cymru a Phrydain Fawr. 

Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn rhyddhau potensial diwydiannol gwyrdd llawn Cymru, yn cyflymu datgarboneiddio ein diwydiannau mwyaf dwys o ran carbon ac yn dod â chyfleoedd newydd i’n cymunedau, buddsoddiad rhyngwladol mawr a miloedd o swyddi tra medrus i’r rhanbarth.” 

Ychwanegodd Will Bramble CBE, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro: 

“Bydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynhyrchu buddsoddiad sylweddol yn y rhanbarth, yn enwedig y meysydd ffocysedig o uwchsgilio’r gweithlu a chreu cyfleoedd am swyddi yma yn ne-orllewin Cymru, yn y pen draw. Yn y bôn, bydd hyn yn ein rhoi ar flaen y chwyldro diwydiannol gwyrdd.”  

Dywedodd y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn hollol weddnewidiol i Gastell-nedd Port Talbot ac i Gymru. Bydd yn gweddnewid ffawd pobl yn ein holl gymunedau. Mae’n ein rhoi ar flaen y chwyldro ynni gwyrdd bydeang a, chyn bo hir, bydd ein trigolion yn gweithio yn niwydiant y dyfodol, yn dysgu sgiliau i sicrhau swyddi gwyrdd â chyflogau da. 

Dywedodd Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 

“Y newyddion gwych hwn yw’r cam cyntaf tuag at ddyfodol llawer mwy disglair yma yn ein bwrdeistref sirol. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’n partneriaid i wneud yn siŵr fod pobl a busnesau lleol yn cael y manteision gorau posibl o’r hyn sydd o’n blaenau.” 

Dywedodd Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau: 

“Fel Porthladd Ynni y DU, mae Porthladd Aberdaugleddau yn croesawu’r newyddion gwych hwn, sy’n ein caniatáu i adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol gwerth miliynau o bunnoedd rydym wedi’i wneud eisoes yn y sector ynni adnewyddadwy ym Mhorthladd Penfro. Ond yr hyn sydd wir yn ein cyffroi am y cyhoeddiad hwn heddiw yw’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar ein cymunedau arfordirol. Sicrhau swyddi heddiw a chreu cyfleoedd gwych i genedlaethau’r dyfodol.” 

Dywedodd Andrew Harston, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymdeithas Porthladdoedd Prydain: 

“Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain wrth ei fodd y bu’n cynnig ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd yn llwyddiannus. Mae ynni gwynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd yn gyfle unigryw i Gymru, ac mae’r raddfa sydd ei hangen yn anferthol.  

“Mae ABP yn barod i fuddsoddi £500 miliwn yn ein porthladd ym Mhort Talbot i sicrhau mantais symudydd cyntaf i gipio’r farchnad fyd-eang hon. Hoffem i’n porthladdoedd fod yn ganolfan ar gyfer gweithgynhyrchu, cynnal a chadw a gweithrediadau ynni gwynt alltraeth arnofiol (FLOW). Ac nid yw’n ymwneud â FLOW yn unig, mae’n ymwneud â thanwyddau cynaliadwy a hydrogen hefyd.