English icon English
County Hall Haverfordwest Neuadd y Sir Hwlffordd

Cynnig tai modiwlaidd newydd dros dro i gefnogi pobl leol ddigartref

New temporary modular housing to support local homeless people proposed

Bydd cynllun i ystyried datblygu safle ysgol segur ar gyfer cartrefi modiwlaidd y gellid eu defnyddio fel llety dros dro i bobl leol ddigartref yn cael ei drafod gan uwch Gynghorwyr yr wythnos nesaf.

Gallai safle'r hen ysgol yn Augustine Way, Hwlffordd hefyd gynnwys unedau er mwyn helpu i leddfu'r pwysau ar bobl sydd angen un gwely, gan gynnwys llety hygyrch/sy'n addas i gadeiriau olwyn neu i'r rhai sy'n gorfod symud allan os oes angen gwneud gwaith adnewyddu brys ar dai cyngor.

Mae'r galw am lety un ystafell wely yn parhau i fod yn uchel yn Sir Benfro gyda thros 2,000 o bobl ar y rhestr dai ar gyfer y math hwn o gartref ac aelwydydd un person sy'n ffurfio mwyafrif yr achosion o ddigartrefedd. Mae'r cyngor hefyd yn dibynnu'n fawr ar ddarparu ar gyfer pobl ddigartref dros dro mewn llety gwely a brecwast lleol.

Bydd y potensial i ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r 'safle yn y cyfamser' hwn yn cael effaith sylweddol ar leihau cost flynyddol bresennol llety dros dro fel gwely a brecwast a hosteli.

Gellid datblygu hyd at 30 o unedau llety, wedi'u cyflwyno'n raddol dros ddwy flynedd, ar y safle, a fyddai'n debyg i ddatblygiadau tebyg mewn trefi a dinasoedd eraill yng Nghymru, gyda chymorth i drigolion ar gael ar y safle.

Mae datblygiad wyth pod tebyg, ond sy’n llai o faint, wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth yn Hubberston ers nifer o flynyddoedd, gyda'r cynlluniau newydd yn rhan o raglen adeiladu'r Cyngor a buddsoddiad mewn tai newydd i drigolion Sir Benfro.

“Mae angen parhaus i ddarparu llety dros dro addas i bobl sy’n wynebu digartrefedd wrth eu cefnogi i ddod o hyd i gartref parhaol.

Yn dilyn trafodaeth yn y Cabinet, os cytunir i ystyried datblygu'r cynnig hwn, byddwn hefyd yn ymgysylltu â'r gymuned leol, a bydd digwyddiad o'r fath yn cael ei gynnal gyda’r nos ar 7 Gorffennaf rhwng 5pm a 7pm yn Neuadd Albany, Hill Street, Hwlffordd. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl leol gwrdd â staff a chynghorwyr lleol i ddysgu mwy am y cynnig,” meddai’r Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman.

Cynhelir y Cabinet dydd Llun, 7 Gorffennaf am 10am a gall pobl wylio trwy weddarllediad.