English icon English
Vic Dennis, cyd-enillwyr gwobr Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Cyrsiau Cymraeg newydd yn dechrau ym mis Medi

New Welsh courses starting this September!

Dych chi’n adnabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg ? Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn cynnig cyrsiau 30 wythnos newydd i ddechreuwyr pur yn dechrau mis Medi yma am £45 yn unig.

Dau o drigolion Sir Benfro sydd wedi dysgu Cymraeg yw Sarah Lewis o Saundersfoot a Vic Dennis o Arberth, sef cyd-enillwyr gwobr Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Cymraeg Sir Benfro eleni.

“Mae Sol yn siarad Cymraeg yn gwbl ddidrafferth. Llwyddodd yn yr arholiad Canolradd y llynedd gyda rhagoriaeth. Mae hi wedi mynychu nifer o Sadyrnau Siarad â chyrsiau Pasg a Haf dros y blynyddoedd diwethaf ” meddai Sian Griffiths, Rheolwr Dysgu Cymraeg Sir Benfro. 

Mae hi hefyd wedi cymryd rhan yn y cynllun Siarad gan fwynhau ac elwa o gael sgyrsiau amrywiol gyda siaradwyr Cymraeg. Mae Sol yn aelod o Gôr Dysgu Cymraeg Sir Benfro ac wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus. Mae hi’n mynychu Cylch Darllen misol ac yn mwynhau darllen yn Gymraeg.”

Mae Vic Dennis o Arberth wedi mynychu nifer o gyrsiau dros y blynyddoedd ac yn defnyddio ei Gymraeg ble bynnag mae’n cael cyfle. Mae e’n gwneud llawer o waith yn ei gymuned leol ac yn llywodraethwr ysgol. Mae e wedi bod yn gynghorydd sir ac wedi hybu’r Gymraeg drwy ei waith.

Mae Vic yn mynychu sesiynau coffi a chlonc Menter Iaith Sir Benfro yn Arberth yn aml. Ym mis Mai eleni arweiniodd daith gerdded i ddysgwyr o gwmpas Arberth.

Hoffai Vic ddiolch i’w diwtoriaid, Tomos Hopkins a Gaynor Watts-Lewis.

Ewch i: Dysgu Cymraeg Sir Benfro | Dysgu Cymraeg am ragor o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg.

Lluniau

  1. Yn y llun gwelir Vic Dennis gyda Siân Griffiths, Rheolwr Dysgu Cymraeg Sir Benfro
  2. Sol Lewis gyda Steve Davis, Prif Swyddog Ieuenctid ac Addysg Gymunedol