
Cyrsiau Cymraeg newydd yn dechrau ym mis Medi
New Welsh courses starting this September
Dych chi’n adnabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg ? Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn cynnig cyrsiau 30 wythnos newydd i ddechreuwyr pur yn dechrau mis Medi yma am £50 yn unig.
Tri o drigolion Sir Benfro sydd wedi cofleidio dysgu Cymraeg yw Kevin Davies o Gasblaidd a Julie a Tim Kirby o Dremarchog.
Kevin Davies yw enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Cymraeg Sir Benfro eleni.
Mae Kevin yn defnyddio pob cyfle i siarad Cymraeg. Mae e'n mynychu sesiynau coffi a chlonc o gwmpas y sir ac yn gwirfoddoli gyda Menter Iaith Sir Benfro mewn digwyddiadau.
“Dw i’n hapus i dderbyn y wobr yma. Mae’r iaith Gymraeg wedi dod yn rhan bwysig o fywyd i fi ers symud i Sir Benfro. Dw i’n edrych ymlaen at barhau i ddefnyddio fy Nghymraeg wrth wirfoddoli ac mewn digwyddiadau i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol 2026 ac annog eraill i ddysgu’r iaith” meddai Kevin Davies.
Julie a Tim Kirby yw enillwyr Gwobr Ymdrech Dda Dysgu Cymraeg Sir Benfro eleni.
Mae’r ddau wedi mynychu Sadyrnau Siarad, cyrsiau atodol a digwyddiadau Cymraeg yn eu cymuned leol yn Nhremarchog.
“Dyn ni’n hapus iawn i ennill gwobr Ymdrech Dda Dysgu Cymraeg Sir Benfro. Diolch yn fawr i’n tiwtor gwych Rhiannon Iwerydd ac i bawb sydd yn ein cefnogi i ddysgu Cymraeg ” meddai Julie a Tim.
Ewch i: Dysgu Cymraeg Sir Benfro | Dysgu Cymraeg am ragor o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg.
Lluniau:
Kevin Davies gyda’i diwtor Buddug Harries a Rhidian Evans, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Benfro.
Julie a Tim Kirby gyda Dawn Bowen, Swyddog Datblygu Dysgu Cymraeg Sir Benfro.