English icon English
Mature drivers course-2

Cyrsiau gyrrwr aeddfed rhad ac am ddim ar gael yn Sir Benfro

Free mature driver courses available in Pembrokeshire

Ydych chi dros 65 mlwydd oed ac yn gyrru'n rheolaidd?

Hoffech chi loywi eich sgiliau gyrru mewn cwrs gloywi undydd rhad ac am ddim?

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal cyrsiau Gyrwyr Aeddfed rheolaidd, gyda'r nod o helpu i gadw modurwyr hŷn i yrru'n ddiogel am fwy o amser.

Cynhelir y cyrsiau yng Ngorsaf Dân Hwlffordd ac fe'u cynhelir rhwng 10am a 4pm.

Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, maen nhw’n cynnwys:

  • sesiwn anffurfiol yn yr ystafell ddosbarth yn y bore
  • sesiwn yrru ymarferol yn y prynhawn gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy.

Fe wnaeth Idwal David o Ddinbych-y-pysgod (yn y llun, chwith) ganmol y cwrs, ar ôl ei gwblhau yn ddiweddar.

"Dydych chi byth yn rhy hen i ddysgu ac rwy'n sicr wedi ehangu fy ngwybodaeth trwy ddilyn y cwrs hwn," meddai.

Mae'r sesiwn theori yn ymdrin â phynciau fel y Cod Priffyrdd, cyffyrdd a chylchfannau, gyrru tymhorol, ymwybyddiaeth o beryglon ac arwyddion ffyrdd.

Mae'r sesiwn ymarferol yn ymdrin â'r agweddau ar yrru mae'r cyfranogwr yn dymuno eu gloywi, megis parcio cyfochrog neu gylchfannau, yn ogystal â thechnegau gyrru mwy diogel cyffredinol.

Dywedodd Sally Jones, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd nad yw'r cwrs yn brawf o sgiliau gyrru, nac yn asesiad ffurfiol o yrru.

"Rydyn ni eisiau eich cadw chi'n symudol, yn annibynnol ac yn hyderus y tu ôl i'r olwyn," meddai. "Gallwn ni hefyd fynd i'r afael ag unrhyw bryderon personol sydd gennych chi am eich gyrru nawr ac ar gyfer y dyfodol."

Mae rhai o'r sylwadau adborth yn cynnwys: 

"Rwyf fi wedi ailddysgu llawer o'r hyn y dylwn i fod wedi'i wybod, ond dros y blynyddoedd rwyf wedi anghofio."

'Fe wnaeth hyn wir helpu fy hyder; dylai pawb wneud y cwrs hwn - diolch i bawb."

"Gallaf nawr wneud cylchfan Morrison’s yn hyderus."