English icon English
bydd swyddog cofrestru etholiad yn mieri gyda chwythu x gan y comisiwn etholiadol

Peidiwch â cholli’ch pleidlais – neges bwysig i’ch atgoffa i wirio’ch manylion cofrestru pleidleisiwr

Don’t lose your vote – important reminder to check your voter registration details

Mae trigolion Sir Benfro yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu gallent wynebu’r posibilrwydd o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae'r canfasiad blynyddol yn galluogi Cyngor Sir Benfro i gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Gall mwy o bobl bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru nag erioed o’r blaen, felly mae hwn yn gyfle pwysig i ddiweddaru’r gofrestr etholiadol. Gall unrhyw un 16 oed a throsodd bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau Senedd Cymru, ni waeth lle cawsant eu geni.

Dywedodd Will Bramble, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Benfro, hyn: “Mae’r canfasiad blynyddol yn ffordd o sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir.

“Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi'n colli'ch llais yn yr etholiad nesaf, cadwch lygad allan am gyfarwyddiadau gennym.

 “Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw trwy wneud hynny ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”

Mae’r rheiny sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn arbennig yn cael eu hannog i wirio eu manylion.

Wedi'i gynnwys yn eich llythyr canfasio mae gwybodaeth am y gofyniad cyfreithiol i ddangos prawf adnabod (ID) ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau.

Gall unrhyw un nad oes ganddo ID ffotograffig a dderbynnir wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:  “Does dim ots ble cawsoch chi eich geni, os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn, gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru – ond dim ond os byddwch ch’n cofrestru i bleidleisio yn gyntaf.

“Mae'n bwysig iawn bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny.”

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gosod dyletswydd ar Swyddogion Cofrestru Etholiadol i gynnal y gofrestr etholiadol ar gyfer eu hardal a chynnal canfasio blynyddol o'r holl eiddo preswyl.
  2. Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, megis sicrhau mai dim ond pobl sy'n gymwys a all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at resymau eraill a nodir mewn cyfraith, megis canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor neu wirio ceisiadau credyd.
  3. Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Gellir ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, caiff ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad. Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored heblaw eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
  4. I fod yn gymwys i bleidleisio, rhaid i berson fod:
  • yn 14 oed neu drosodd (gall person gofrestru i bleidleisio yn 14 oed, ond ni all bleidleisio hyd nes ei fod yn 16 oed ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cynghorau lleol, neu’n 18 oed ar gyfer etholiadau Senedd y DU)
  • yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd Gwyddelig, dinesydd yr UE neu ddinesydd tramor arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn ac aros yn y DU, neu un nad oes arno angen y fath ganiatâd.
  1. Gall gwladolion yr UE sy’n preswylio yn gyfreithlon yn y DU gofrestru i bleidleisio ym mhob etholiad. Bydd Deddf Etholiadau 2022 yn newid cymhwystra rhai dinasyddion yr UE i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.
  2. Ni fydd y newidiadau i hawliau pleidleisio ar gyfer gwladolion yr UE yn effeithio ar bleidleiswyr o Gyprus, Malta ac Iwerddon.
  3. Mae manylion llawn pwy all bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
  4. Mae manylion llawn ymchwil y Comisiwn Etholiadol i'r cofrestrau etholiadol ar gael ar ei wefan.