English icon English
Llun grŵp o bawb wrth ddadorchuddio cofeb covid yn Neuadd y Sir

Dadorchuddio cofeb bwerus yn Neuadd y Sir i bawb a effeithiwyd gan Covid-19

Powerful memorial for all those affected by Covid-19 unveiled at County Hall

Mae teyrnged barhaol i anwyliaid Sir Benfro a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19 a'r rhai hynny a oedd gweithio ar y rheng flaen wedi'u gosod yn Neuadd y Sir.

Dadorchuddiodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Thomas Tudor garreg hardd, a roddwyd yn garedig i bobl Sir Benfro gan Ian Harries o A & C Aggregates.

Mae'n cynnwys plac o lechen, a noddwyd gan Borthladd Aberdaugleddau, wedi'i ysgythru â theyrnged briodol a theimladwy.

Mae'r plac yn darllen:

Er cof am bawb a gymerwyd oddi wrthym yn ystod pandemig Covid-19.

Rydym yn cofio ein hanwyliaid a fu farw.

Rydym yn meddwl am y rhai na fu modd iddynt ddweud ffarwel

Rydym yn diolch i'r rhai a weithiodd yn ddiflino i achub bywydau ac a  gefnogodd ein cymunedau.

County Hall Covid memorial stone1

Roedd y gwahoddedigion yn cynnwys Dirprwy Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed Dr Chris Martin, cydweithwyr y Cyngor, y gwasanaethau iechyd ac argyfwng, partneriaid statudol a chynrychiolwyr ffydd a chrefydd o bob rhan o Sir Benfro.

Yn y seremoni dadorchuddio ddydd Gwener (22 Mawrth), dywedodd y Cynghorydd Tudor: "Mae gan bob un ohonom ein hatgofion a'n profiadau personol ein hunain o'r cyfnod clo hwnnw a'r amser a ddilynodd.

"Yn drist iawn bydd rhai wedi colli anwyliaid a'r bobl hynny sydd flaenaf ar ein meddyliau. Efallai y bydd rhai yn dal i brofi effaith Covid ar eu hiechyd.

"Ond beth bynnag yw eich profiad personol, ni fydd yr un ohonom byth yn anghofio'r amser hwnnw. I rai yn ystod Covid, roedd fel petai amser wedi dod i ben. Trodd dyddiau'n wythnosau, yna’n fisoedd wrth i'w bywydau bob dydd ddod i ben.

"I eraill, y rhai y daethom i’w hadnabod fel gweithwyr allweddol, roedd yn amser o weithio o dan y pwysau dwysaf y gellid ei ddychmygu.

"Mae'r plac yn cydnabod y gweithwyr hynny o bob sefydliad a sector a oedd yn gofalu amdanom, ein cadw wedi ein bwydo, cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cadw'n ddiogel yn y dyddiau a'r nosweithiau anodd hynny.

"Iddyn nhw i gyd rwy'n dweud diolch yn fawr iawn am bopeth rydych chi wedi'i wneud. Dywedir bod amser yn gwella. Gyda amser daw'r cyfle i fyfyrio. Rydym yn myfyrio heddiw ac yn cofio'r rhai a gollwyd i Covid ac rydym yn diolch i'r rhai a wnaeth bopeth o fewn eu gallu i achub bywydau a'n cadw ni i gyd yn ddiogel."

Siaradodd Darron Dupre o Unsain ar ran yr undebau llafur ac ychwanegodd ei ddiolch i'r rhai a oedd wedi helpu i hwyluso ei gais am gofeb.

Amlygodd fod llawer o bobl wedi gallu newid i weithio gartref wrth i'r pandemig daro yn 2020 ond "nid oedd gan lawer o bobl yn Sir Benfro y moethusrwydd hwnnw ac aethant i mewn i'r gwaith bob dydd".

"Y gwir amdani yw ein bod ni wedi colli pobl. Bydd y garreg goffa hon yn para a byddwn yn gallu cofio'r bobl a'u straeon yn y lle hwn. Dyma eich lle chi ac mae hwn yn cynrychioli eich stori."

Union speech memorial stone