Darganfod mwy am ddod yn Gynghorydd yn yr Etholiadau Lleol y flwyddyn nesaf
Find out more about becoming a Councillor at next year’s Local Elections
Ydych chi'n weithgar yn eich cymuned? Eisiau gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi'n byw? Dewch i ymuno â ni mewn digwyddiad galw heibio arbennig i ddarganfod mwy am ddod yn Gynghorydd Sir.
Bydd Etholiadau Lleol yn cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Mai 2027 a'r digwyddiad hwn ar 10 Tachwedd yw'r cyntaf a gynlluniwyd i'r rhai sydd â diddordeb i ddarganfod mwy am sefyll.
Bydd yn rhedeg rhwng 2pm a 6pm yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ac yn cynnig cyfle anffurfiol i ddarpar ymgeiswyr gael cipolwg ar rôl aelod etholedig a'r broses ddemocrataidd.
Bydd ymwelwyr yn gallu mynd ar daith dywys o amgylch cyfleusterau cyfarfodydd y Cyngor, siarad yn uniongyrchol â chynghorwyr presennol am eu profiadau yn y swydd a gofyn cwestiynau am y cyfrifoldebau, y cyfleoedd a'r heriau sy'n dod o gynrychioli cymunedau lleol.
Hefyd, bydd staff o'r timau Etholiadau a Gwasanaethau Democrataidd wrth law trwy gydol y prynhawn i roi cyngor ymarferol ar y broses enwebu, gofynion cymhwysedd a'r cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr.
Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall sy’n gyfrifol am Ddemocratiaeth, a Dysgu a Datblygu.
“Mae bod yn Gynghorydd yn rôl ddiddorol ac amrywiol, un lle gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned. Os ydych chi erioed wedi meddwl am sefyll mewn etholiad, mae hwn yn gyfle gwych i ddarganfod mwy a byddwn yn annog unrhyw un i ddod draw, waeth beth fo'u cefndir, eu profiad neu eu cysylltiad gwleidyddol.
“Mae'r rôl yn heriol ac mae aelodau etholedig yn delio â phob math o anawsterau bob dydd, ond mae'n werth chweil. Bydd y bobl sy'n bresennol yn cael cyfle i ddarganfod mwy am sut mae llywodraeth leol yn gweithio a'r rôl hanfodol y mae cynghorwyr yn ei chwarae wrth lunio gwasanaethau, dylanwadu ar benderfyniadau a hyrwyddo buddiannau trigolion,” meddai'r Cynghorydd Skyrme-Blackhall.
Methu dod i’r sesiwn hon? Bydd digwyddiadau pellach yn cael eu trefnu ar gyfer dechrau 2027. Os hoffech roi gwybod i ni eich bod yn bwriadu bod yno ar 10 Tachwedd neu os oes gennych ymholiadau pellach, anfonwch e-bost: