Pembrokeshire at 75% fibre coverage - Gavin Jones, Beau Mogford, Patrick Hannon, Lee McSparron, Gemma Butland, Paul Miller

Darpariaeth band eang gigadid i 75% o Sir Benfro

Pembrokeshire reaches 75% gigabit broadband coverage

Rhannu:

Mae Sir Benfro wedi cyrraedd carreg filltir ddigidol o bwys gyda 75% o'r sir bellach yn gallu cael mynediad at fand eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigadid.

Mae hyn yn drawsnewidiad sylweddol o ddarpariaeth o ychydig dros 5% yn 2019. Ers hynny, mae'r ddarpariaeth wedi cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn, gan adlewyrchu'r raddfa gyflawni ac effeithiolrwydd dull dan arweiniad partneriaeth a chefnogaeth allweddol gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Gydag ychydig o ddiddordeb masnachol ar y dechrau, rhoddwyd ffocws sylweddol ar gydweithio'n agos â chymunedau i ddangos y galw a dileu rhwystrau i ddarpariaeth. Mae hyn wedi helpu i greu'r amodau iawn ar gyfer buddsoddiad cystadleuol ac, ers hynny, mae wedi trawsnewid y farchnad leol.

Heddiw, mae 43.7% o'r ddarpariaeth Gigadid yn Sir Benfro yn cael ei darparu gan gyflenwyr rhwydwaith amgen, gan gynnwys Ogi, Voneus a'r darparwr lleol, Dragon WiFi. Yn ogystal â hyn, mae Openreach yn parhau i fod yn ddatblygwr rhwydwaith craidd yn y sir, ac mae arwydd cryf y bydd yn aros yn y sefyllfa honno yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio yng Nghyngor Sir Penfro, sydd â chyfrifoldeb portffolio am seilwaith digidol ers 2017: “Mae cyrraedd darpariaeth fand eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigadid o 75% yn garreg filltir bwysig i Sir Benfro ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth.

"Yn 2019, roedd rhannau helaeth o'r sir yn cael eu hanwybyddu o ran buddsoddiad a dim ond 5% allai gael cyflymder Gigadid. Ers 2019, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector, mae tua 50,000 o gartrefi a busnesau yn Sir Benfro wedi'u cysylltu ac, er ein bod yn cydnabod bod rhagor i'w wneud cyn i ni gyrraedd 100%, mae'r cynnydd hyd yn hyn, yn enwedig o ystyried natur wledig ein sir, wedi bod yn anhygoel.”

Mae'r gwaith o gyflawni ledled y sir wedi cael ei gefnogi gan gyfuniad o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y rhaglen Rhwydweithiau Ffeibr Llawn Lleol sy'n cysylltu tua 70 o safleoedd y sector cyhoeddus, Cynllun Talebau Band Eang Gigadid Llywodraeth y DU, Partneriaethau Cymunedol Ffeibr Openreach , grantiau Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru, amryw o brosiectau adeiladu masnachol arfaethedig a Phrosiect Mewnlenwi Gwell Band Eang y Rhaglen Seilwaith Digidol.

Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaeth Cymru a Gorllewin Lloegr, Openreach: “Rydyn ni’n falch o gefnogi dyfodol digidol Sir Benfro, gyda'n rhwydwaith ffeibr llawn bellach yn cyrraedd 43,000 o safleoedd drwy fuddsoddiad o £12.9m. Mae'r garreg filltir hon yn golygu cysylltedd cyflymach, mwy dibynadwy i gartrefi a busnesau ledled y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Gan gydweithio'n agos â Chyngor Sir Penfro a Llywodraeth y DU, rydyn ni’n parhau i ddod â ffeibr llawn i hyd yn oed fwy o gymunedau.”

Mae’r Hyrwyddwyr Digidol yng Nghyngor Sir Penfro wedi chwarae rhan allweddol wrth gynyddu lefelau cysylltedd.  Drwy ddull rhagweithiol sy’n chwalu rhwystrau, mae'r tîm wedi symleiddio prosesau mewnol ac wedi cydgysylltu’n gyson i gefnogi cyflenwyr a chyflymu'r ddarpariaeth.

Bydd gwaith nawr yn parhau i ymestyn y ddarpariaeth ymhellach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anoddach eu cyrraedd, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw gymunedau yn cael eu gadael ar ôl wrth i Sir Benfro adeiladu'r sylfeini digidol i gefnogi twf economaidd, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol gwydn.  I gael rhagor o wybodaeth am gysylltedd yn eich ardal, e-bostiwch eich Hyrwyddwyr Digidol lleol: bandeang@sir-benfro.gov.uk

Nodiadau i olygyddion

Yn y llun – Gavin Jones a Beau Mogford, OpenReach, Patrick Hannon, Rheolwr Rhaglen Broadband PCC, Lee McSparron, Pennaeth TGCh PCC, Gemma Butland, Ogi a tu ôl i'r Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd a Chynghorydd Cabinet ar gyfer Addysg a Ailddatblygu.