Wythnos gofalwyr

Datganiad ar y cyd gan Bartneriaid Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro - Cefnogi cymunedau Sir Benfro drwy wasanaethau dibynadwy

Joint statement from Pembrokeshire Community Safety Partnership Partners - Supporting Pembrokeshire communities through trusted services

Rhannu:

Mae’r sefydliadau sy’n rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro wedi ymrwymo i gefnogi trigolion, yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed oherwydd oedran, anabledd, iechyd gwael, caledi ariannol neu amgylchiadau personol eraill.

Rydym yn cydnabod y gall pobl geisio cymorth a chefnogaeth ychwanegol yn ystod cyfnodau o dywydd heriol, argyfyngau personol, ynysigrwydd cymdeithasol neu sefyllfaoedd anodd eraill. Ar adegau o’r fath, mae’n bwysig bod trigolion yn ymwybodol o’r amrywiaeth o wasanaethau dibynadwy a sefydledig sydd ar gael ledled Sir Benfro.

Mae rhwydwaith o sefydliadau statudol, gwirfoddol a chymunedol yn gweithio gyda’i gilydd ledled y sir i roi cyngor, cefnogaeth a chymorth ymarferol. Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithredu o fewn fframweithiau diogelu, llywodraethu a diogelu data cydnabyddedig a gallant gysylltu unigolion â’r cymorth mwyaf priodol ar gyfer eu hamgylchiadau.

Rydym yn annog trigolion sy’n ceisio cymorth, neu’r rhai sy’n poeni am ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu, i gysylltu â Hwb Cymunedol Sir Benfro.

 

Mae Hwb Cymunedol Sir Benfro wedi ymrwymo i gefnogi trigolion, yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed oherwydd oedran, anabledd, iechyd gwael, caledi ariannol neu amgylchiadau personol eraill. Mae diogelwch a lles trigolion Sir Benfro yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Bydd sefydliadau partner yn parhau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi cymunedau, hyrwyddo cydnerthedd a sicrhau bod unigolion agored i niwed yn gallu cael cyfle i fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt o ffynonellau dibynadwy.

Rydym hefyd yn annog unigolion i fod yn ofalus wrth rannu gwybodaeth bersonol ac i sicrhau eu bod yn deall sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio a’i diogelu.

Mae diogelwch a lles trigolion Sir Benfro yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Bydd sefydliadau partner yn parhau i weithio gyda’i gilydd i gefnogi cymunedau, hyrwyddo cydnerthedd a sicrhau bod unigolion sy’n agored i niwed yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt o ffynonellau dibynadwy.

Am gymorth neu fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Hwb Cymunedol Sir Benfro

Ffôn: 01437 723660

E-bost: enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org

Cyhoeddwyd ar y cyd gan:

  • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro
  • Cyngor Sir Penfro
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru