English icon English
Llyfrgell Dylan Thomas

Dathlu Bywyd Barddol Dylan Thomas

Celebrating the Lyrical Life of Dylan Thomas

Ar 9 Mawrth 2024 bydd arddangosfa newydd sbon, Dylan: Bywyd Barddol Dylan Thomas, yn agor yn Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon yn Hwlffordd, i ddathlu bywyd a gwaith un o feirdd gorau Cymru.

Er bod bywyd Dylan yn fyr a llawn anrhefn, roedd yn awdur toreithiog, ac mae’r arddangosfa hon yn edrych ar ei waith fel bardd a dramodydd. Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa bydd llawysgrifau gwreiddiol o’i gerddi, drafftiau a nodiadau, yn ogystal a’i restr eiriau enwog a braslun o’r pentref dychmygol ‘Llareggub’.

Mae’r arddangosfa hefyd yn dathlu 70 mlynedd ers y darllediad cyntaf o’i ‘ddrama i leisiau’, Under Milk Wood, a bydd cyfle i ymwelwyr weld y sgript wreiddiol a gwrando ar ddetholiad o glipiau o gynhyrchiad eiconig y BBC yn serennu Richard Burton.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Ry’n ni’n falch iawn bod y casgliad a’r arddangosfa gyffrous hon yn cael ei hagor yn Hwlffordd, mae’n gyfle i bobl o du hwnt i dalgylch y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gael profi a mwynhau y rhan bwysig iawn yma o’n casgliadau. Fel bardd sy’n cael ei adnabod ledled y byd fel un o feirdd gorau Cymru, mae casgliad Dylan Thomas ymysg rhai o drysorau’r Llyfrgell a Chymru.  Byddem yn annog pawb i ymweld â’r arddangosfa arbennig yma.”

Meddai Mari Elin, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’n braf gweld yr arddangosfa arbennig hon yn mynd i sir Benfro - ardal a oedd mor agos at galon Dylan.  Bwriad yr arddangosfa yw edrych ar waith a bywyd Dylan trwy ei eiriau hudol ef ei hun, yn enwedig ei farddoniaeth a'r ddrama fytholwyrdd, Under Milk Wood.  Rydyn ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr wrth eu bodd a'r cyfle hwn i weld detholiad unigryw o lawysgrifau Dylan, yn ogystal a gweithiau celf arbennig wedi'u hysbrydoli gan ei waith, ac y byddent hwythau'n cael eu hysbrydoli i fynd ati i greu!”

Yn ogystal ag edrych ar waith Dylan, bydd yr arddangosfa hefyd yn dangos detholiad o weithiau celf unigryw sydd wedi cael eu hysbrydoli gan fywyd a geiriau Dylan dros y degawdau. Ymysg y gweithiau hyn bydd darnau gan Ceri Richards, Peter Evershed, Ray Howard Jones a Paul Peter Piech.

Bydd yr arddangosfa yn agor gyda digwyddiad arbennig iawn ar Nos Wener 8 Mawrth yng nghwmni’r Bardd Llawryfog Simon Armitage (ar adeg ysgrifennu, roedd pob tocyn wedi'i archebu). Fel rhan o’r Poet Laureate Library Tour bydd y noson yn cynnwys darlleniadau ganddo a’i westeion Owen Sheers a Bethany Handley. Bydd digwyddiadau eraill i gydfynd â’r arddangosfa yn cael eu cyhoeddi yn fuan ar dudalen ar wefan Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Glan-yr-afon Glan-yr-afon a’u tudalen Facebook.  

Ochr yn ochr ag arddangosfa Dylan: Bywyd Barddol Dylan Thomas cynhelir arddangosfa barhaol Sir Benfro: Ddoe a Heddiw, sy'n canolbwyntio ar hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro, a fydd yn arddangos detholiad o eitemau newydd y tymor hwn.

Bydd y ddwy arddangosfa ar agor tan Ddydd Sadwrn 14 Medi 2024.