English icon English
Children enjoyed Welsh music at special gigs in Narberth

Dathlu cerddoriaeth Gymraeg mewn steil gyda dros 1,000 o blant

Welsh language music celebrated in style with more than 1,000 children

Daeth tua 1,500 o blant o 31 o ysgolion ledled Sir Benfro at ei gilydd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru mewn pedwar gig bythgofiadwy yn llawn cerddoriaeth fyw ac adloniant.

Yn arwain y dathlu yn Neuadd y Frenhines, Arberth, roedd Candelas, un o fandiau gorau Cymru, a gyflwynodd berfformiad gwefreiddiol. Mwynhaodd y disgyblion set DJ fywiog hefyd gan DJ Daf, gan ddod â masgotiaid y Siarter Iaith, Seren a Sbarc yn fyw gyda'u hoff gerddoriaeth Gymraeg—a chreu awyrgylch hwyliog a difyr drwy gydol y dydd.

Cafodd y digwyddiad ar 7 Chwefror ei gyd-drefnu gan Adran Addysg Cyngor Sir Penfro, fel rhan o'u gwaith Siarter Iaith, a Menter Iaith Sir Benfro, sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ar draws y sir.

Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu'r Gymraeg: "Cofleidiodd disgyblion Sir Benfro ysbryd Dydd Miwsig Cymru, gan ddangos nad ffynnu'n unig mae cerddoriaeth Gymraeg—mae'n fwy amlwg ac yn fwy balch nag erioed!"

Dydd Miwsig Cymru 3

Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy'n ymroddedig i ddathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar draws Cymru a thu hwnt. Ei nod yw ysbrydoli pobl o bob oed i archwilio a mwynhau'r cyfoeth o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg, o ganu gwerin traddodiadol i roc, pop a chyfoes.