Members of Pembrokeshire County Council, Welsh Government, Morgan Sindall and Portfield School staff celebrate new facilities

Dathlu cyfleusterau newydd Ysgol Portfield

Portfield School’s new facilities celebrated

Rhannu:

Mae cam cyntaf rhaglen ailddatblygu fawr yn Ysgol Portfield bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, gan nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith parhaus i wella darpariaeth addysg arbenigol yn y sir.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sydd â’r nod o ddarparu amgylcheddau dysgu modern o ansawdd uchel i ddisgyblion ledled Cymru.

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Morgan Sindall, mae'r cynllun wedi'i lywio gan ymrwymiad cryf i hygyrchedd, cynaliadwyedd, a chreu mannau sy'n darparu ar gyfer sbectrwm eang o ofynion dysgu a therapiwtig.

Mae'r dull cydweithredol hwn wedi sicrhau bod y cyfleusterau newydd yn cael eu cynllunio'n feddylgar, yn barod ar gyfer y dyfodol ac wedi eu teilwra i anghenion poblogaeth amrywiol dysgwyr yr ysgol.

Bydd Ysgol Portfield, lleoliad arbenigol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol, nawr yn gweld ei disgyblion yn elwa o amgylchedd dysgu llawer gwell.

Mae'r adeilad sydd newydd ei gwblhau yn darparu mannau modern, hyblyg a chynhwysol i ddysgwyr rhwng 3 a 19 oed, gan helpu i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig o ansawdd uchel yn Sir Benfro.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Portfield, Sarah Hartley: "Rydym wrth ein bodd gyda'r ddarpariaeth newydd i'n disgyblion yn Ysgol Portfield. Mae'r ddarpariaeth hon yn gam sylweddol ymlaen i sicrhau bod gan bob disgybl fynediad at amgylchedd dysgu cynhwysol, cefnogol ac ysbrydoledig lle gallant ffynnu.

“Fel Pennaeth rwy'n hynod falch o ba mor dda mae'r disgyblion wedi pontio i'r safle newydd ac wedi addasu mor gyflym i'w hamgylchedd dysgu newydd. Rwy'n gyffrous iawn i fod yn gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig o staff sy'n rhannu'r un angerdd dros addysg gynhwysol. Gyda'n gilydd byddwn yn creu cymuned ysgol lle gall pob person ifanc ffynnu.”

 Ysgol Portfield 2

Mae'r adeilad newydd yn ymgorffori cyfres o nodweddion arbenigol, gan gynnwys mannau synhwyraidd pwrpasol ac ardaloedd awyr agored wedi'u huwchraddio a'u cynllunio i annog gweithgarwch corfforol, rhyngweithio cymdeithasol a lles emosiynol.

Bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at y gefnogaeth, yr adnoddau a'r amgylcheddau sydd eu hangen arnynt i ddysgu, datblygu a ffynnu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae pob dysgwr yn haeddu amgylcheddau sy'n eu meithrin, eu herio a'u cefnogi, ac rwy'n falch o allu cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Benfro drwy ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Bydd y mannau arbenigol yn ein helpu i ddiwallu ystod eang o anghenion ac yn sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i fod yn gallu ffynnu.”

Gyda chwblhau Cam Un, mae'r rhaglen ailddatblygu yn parhau i symud ymlaen, gan osod sylfeini cadarn ar gyfer camau nesaf y gwaith a fydd yn cryfhau gallu'r ysgol i ddarparu cymorth a chyfleoedd addysgol rhagorol i'w holl ddysgwyr.

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: "Mae hon yn foment gyffrous i'r ysgol, y teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi, a'r gymuned ehangach. Bydd y cyfleusterau newydd yn darparu amgylchedd o ansawdd uchel, y maen nhw'n ei haeddu, i’r disgyblion ac mae'r cyntaf yn dod â ni'n agosach at gyflawni'r weledigaeth lawn ar gyfer yr ysgol ragorol hon.”

Mae'r adeilad newydd yn cynrychioli buddsoddiad hirdymor mewn addysg arbenigol ac yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir Penfro i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cymorth cywir, yn yr amgylchedd cywir.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ardal Cymru dros Morgan Sindall Construction, Robert Williams: "Mae'n fraint wirioneddol trosglwyddo cyfleusterau AAA newydd Ysgol Portfield. Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad ein tîm ni yn Morgan Sindall, ac mae wedi bod yn wych gweithio gyda thîm Cyngor Sir Penfro i wireddu’r prosiect.

“Bydd y cyfleusterau newydd yn gwneud gwahaniaeth parhaol – gan ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i blant sy'n cynnig y gefnogaeth sydd ei angen ar ddisgyblion i ffynnu a chael eu hysbrydoli. Gyda'r galw cynyddol am addysg arbenigol, mae'n hynod ystyrlon helpu i ddarparu'r lleoedd ysgol sydd eu hangen ar deuluoedd lleol.”

Mae'r cam nesaf, sydd wedi ei ddechrau ar unwaith, yn cynnwys adnewyddu hen floc H Tasker Milward ar gyfer disgyblion ôl-16, dymchwel adeilad presennol yr ysgol gynradd gan gynnwys gwaith adfer ac uned gofal seibiant newydd ac adnewyddu Tŷ Holly.