Dathlu llwyddiant prentisiaid y Cyngor yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau
Showcasing Council apprentice success this National Apprenticeship Week
Mae dau brentis o Gyngor Sir Penfro yn dathlu eu llwyddiannau yn ystod wythnos prentisiaethau eleni - un wedi cael dyrchafiad ac un wedi ennill gwobr genedlaethol.
Mae un o driawd o brentisiaid digidol a ymunodd â'r awdurdod yn 2023 yn dathlu sicrhau dyrchafiad o fewn ei dîm tra bod aelod o'r Depo Cludiant Teithwyr wedi cael ei gydnabod â gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn, yng Ngwobrau blynyddol Academi Sgiliau Cymru.
Wrth i'r DU hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (9-15 Chwefror) mae Cyngor Sir Penfro yn llongyfarch Olly Richards, sydd wedi cael ei ddyrchafu'n Ddatblygwr TG, a Dean Turner sydd bellach yn yrrwr bws llawn amser gyda'r awdurdod.
Cyflwynwyd prentisiaethau TGCh yn 2023 i helpu i ddatrys problemau sy'n ymwneud â recriwtio, ac roedd Olly yn un o dri aeth amdani.
Ymunodd Dean â'r Cyngor fel gyrrwr prentis yn 2024 ac ef oedd y cyntaf i gychwyn ar y math hwn o Brentisiaeth gyda'r awdurdod, gan ddechrau ar ei swydd lawn amser ym mis Awst y llynedd.
Dywedodd Rheolwr Gweithredol Uned Trafnidiaeth Integredig, Matthew Johns: "Roeddwn yn falch iawn o glywed bod gwaith caled ac ymrwymiad Dean yn cael ei ddathlu gyda'r wobr wych hon. Mae'n ychwanegiad gwych i'r tîm ac rydym yn hynod falch o'i lwyddiant.”
Ychwanegodd rheolwr Olly, Pennaeth TGCh, Lee McSparron: "Rydym yn falch iawn o Olly, sydd wedi bod yn llysgennad gwych ar gyfer y Rhaglen Prentisiaid TGCh. Gyda'i ymdrech a'i agwedd gadarnhaol, mae Olly wedi ehangu ei wybodaeth a'i sgiliau digidol yn gyflym trwy fentora cefnogol a chreu datrysiadau technoleg sy'n gwella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau trwy dechnoleg.
“Bydd pob un o'n tri phrentis yn cael cyfleoedd parhaus i ddatblygu eu haddysg a'u hyfforddiant gyda'r gwasanaeth, mae'r cynllun wedi bod yn gaffaeliad i'r gyfarwyddiaeth yn ogystal â'r bobl ifanc dan sylw", meddai Lee McSparron, Pennaeth TGCh.
Y llynedd, ymunodd deg prentis newydd â'r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau fel rhan o raglen estynedig gydag arbenigeddau mewn Rheoli Adeiladu a Pheirianneg Fecanyddol a Thrydanol.
Roedd y deg prentis yma yn dilyn pedwar arall a oedd yn rhan o garfan gychwynnol ac sydd bellach i gyd yn cael eu cyflogi o fewn y Cyngor.
Mae twf y rhaglen yn tynnu sylw at ymroddiad parhaus y Cyngor i helpu pobl leol i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon.
Tynnodd adroddiad diweddar yr asesiad perfformiad panel sylw at y rhaglen fel astudiaeth achos o faes cryfder ar draws y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Marc Tierney, Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc, Cymuned, Llesiant a Chenhedlaeth y Dyfodol: "Mae prentisiaethau yn agor drysau i bobl ifanc, gan eu helpu i feithrin sgiliau ymarferol, hyder a rhagolygon gyrfa cryf. Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleoedd sy'n helpu ein pobl ifanc i ffynnu, ac mae'n ysbrydoledig gweld y gwahaniaeth y mae prentisiaethau yn ei wneud i unigolion ac i'n cymuned gyfan.”
Yn y llun – Olly Richards gyda'r prentisiaid TG, Lewis Allen a Keegan King.
Dean Turner, prentis gyrrwr bws a enillodd wobr, gyda Frances Lee o noddwyr y digwyddiad, Agored Cymru.