Dathlu menywod ysbrydoledig a chyfleoedd gyrfa ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 23 yn Sir Benfro
Celebration of inspirational women and career opportunities at Pembrokeshire IWD 23
Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yr wythnos hon ym Maes Awyr Hwlffordd, sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro, gyda chydnabyddiaeth i’r menywod ysbrydoledig sydd â gyrfaoedd yn y meysydd STEM yn Ne-orllewin Cymru, a chyfle i bobl ifanc gael gweld cyfoeth ac amrywiaeth y cyfleoedd sydd ar gael ym meysydd hedfanaeth, peirianneg a gyrfaoedd cysylltiedig.
Roedd y diwrnod yn rhan o wythnos gyffrous o weithgareddau yn y maes awyr, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Sir Penfro, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Fforwm Awyrofod Cymru, Maes Awyr Hwlffordd, Fly Wales a Metal Seagulls.
Cafwyd cyfle i ystod eang o fyfyrwyr o bob oedran a gallu ymgysylltu â rhai o’r menywod sy’n dilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes hedfanaeth, a dysgu am y llwybrau astudio a gyrfaoedd sydd ar gael iddynt. Hefyd, cawsant gyfle i sgwrsio â pheilot, eistedd mewn awyren, dysgu mwy am hedfan a sut mae awyrennau ysgafn yn cael eu hadeiladu, cymryd rhan mewn gweithgareddau mecanyddol, trydanol ac electronig, gweld cydrannau peirianegol a argraffwyd mewn 3D, ac archwilio llwybrau addysgol tuag at eu huchelgeisiau.
Dewiswyd y bobl ifanc yn dilyn cystadleuaeth ledled Sir Benfro, ac roedd disgyblion yn bresennol o Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Portfield, Ysgol Spittal, Ysgol Aberdaugleddau a Castle School, myfyrwyr o Goleg Sir Benfro, uned Stepping Stones, a mwy.
Yn ogystal, cafwyd gweddarllediad rhyngweithiol byw o gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn canolbwyntio ar fenywod, cyrsiau, a chyfleoedd yn y meysydd STEM a ysbrydolodd ac a luniodd cysyniadau yn ymwneud â llwybrau gyrfaoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Pat Davies, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, fod yr awdurdod unwaith eto’n falch o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. “Mae wedi bod yn galonogol clywed am yr holl weithgareddau gwych sy’n cael eu cynnal ym Maes Awyr Hwlffordd a ledled gweddill Sir Benfro i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy’n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod,” dywedodd. “Diolch o galon i bawb sy’n cymryd rhan.”
Dywedodd Patricia Mawuli Porter OBE, sef un o’r prif drefnwyr a fu hefyd yn cynnal llawer o weithgareddau yn awyrendy ei chwmni: “Rydym yn credu bod meysydd awyr fel Maes Awyr Hwlffordd yn asedau cymunedol. Maen nhw’n darparu hyfforddiant, a datrysiadau peirianegol a logistaidd i fusnesau a’r gwasanaethau brys, yn ogystal â bod yn gyfrwng ysbrydoledig i ysgolion eu darganfod, fel rhan o’u cwricwlwm.” Mae cwmni Patricia, sy’n gweithio ar ddatrysiadau hedfanaeth ysgafn ar gyfer y genhedlaeth nesaf, yn bwriadu cymryd dau brentis y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, os bydd cyllid yn caniatáu."
Dywedodd Lisa Lucas, Rheolwr Cysylltiadau Diwydiant Prifysgol y Drindod Dewi Sant: “Roedd yn bleser cefnogi’r wythnos hon o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Yn PCYDDS, mae ein rhaglen MADE Cymru yn canolbwyntio ar uwchsgilio gweithgynhyrchwyr yng Nghymru, a thrwy hynny ysgogi twf economaidd yn y sector. Mae peirianneg a gweithgynhyrchu yn rhan annatod o economi Cymru, ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o ddigwyddiad sydd â’r nod o annog a denu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ifanc i’r diwydiannau ffyniannus hyn, a dathlu menywod fel Patricia a Carys yn Metal Seagulls sy’n chwalu rhwystrau, yn goresgyn heriau, ac yn ysbrydoli’r cenedlaethau iau o fenywod i ddilyn eu diddordebau.”