English icon English
Shore Seafoods

Dedfrydau gohiriedig i weithredwyr cwmni bwyd môr o Sir Benfro

Suspended prison sentences for operators of Pembrokeshire based seafood company

Mae achosion mynych o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd a thorri hysbysiadau statudol yn fwriadol a roddwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd i ddiogelu iechyd defnyddwyr wedi arwain at ddedfrydau gohiriedig i ddau weithredwr busnes bwyd yn Sir Benfro.

Yn ogystal, rhoddwyd Gorchmynion i Colin James Brown a Donna Brown, sy’n cynnal Shores Seafood yn 16 India Row yng Nghil-maen, Penfro, sy’n eu gwahardd rhag rheoli busnes bwyd am gyfnod amhenodol.

Cynhaliwyd y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 24 Mawrth 2023, ar ôl i’r pâr bledio’n euog mewn gwrandawiadau cynharach i bedair trosedd o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, fel y’u diwygiwyd, a Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, fel y’u diwygiwyd, yn ymwneud â:

  • methu â chymryd camau i ddiogelu bwyd rhag perygl halogiad
  • rhoi bwyd anniogel ar y farchnad
  • methu â chydymffurfio â Hysbysiad Camau Adfer
  • gweithredu eu busnes heb gymeradwyaeth ar ôl i gymeradwyaeth i gyflenwi eu bwyd môr gael ei hatal dros dro

Dygwyd yr erlyniad yn ei flaen gan Gyngor Sir Penfro.

Clywodd y llys fod y troseddau wedi digwydd dros gyfnod pan ganfuwyd bod y busnes, a oedd yn gwerthu crancod a chimychiaid wedi’u trin, wedi cynhyrchu bwydydd yn gyfnodol a oedd wedi’u halogi â lefelau uchel o’r bacteria niweidiol, Listeria monocytogenes, sy’n gallu cael effeithiau difrifol ar iechyd trwy gyflwr o’r enw listeriosis, yn enwedig mewn rhannau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed.

Er gwaethaf ymdrechion trwyadl gan swyddogion y Cyngor i weithio gyda’r busnes i amlygu ffynonellau posibl o halogiad bacteriol a sicrhau bod trefniadau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu gweithredu, ataliodd y Cyngor Sir eu cymeradwyaeth i gyflenwi eu bwyd môr i fusnesau eraill ym mis Ebrill 2021 o ganlyniad i bryderon swyddogion ynglŷn â gallu’r busnes i ddarparu bwyd diogel.

Rhoddodd y Cyngor Hysbysiadau Camau Adfer i’r busnes hefyd a oedd yn atal cynhyrchu bwyd, ar ôl iddo ddod i’r amlwg nad oedd y busnes yn gallu gweithredu’r rheolaethau angenrheidiol yn barhaol, a heb ei ymyrraeth barhaus.

Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2021, daeth y Cyngor yn ymwybodol bod gweithredwyr Shores Seafood yn parhau i gyflenwi eu cynhyrchion i safleoedd bwyd lleol yn Sir Benfro a thu hwnt, yn gwbl groes i’r hysbysiadau gorfodi a oedd ar waith ar y busnes.

Cysylltodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd â’r busnesau a gyflenwyd cyn gynted ag y daeth y wybodaeth i law a thynnwyd y cynhyrchion oddi ar y farchnad.

Gwnaethant hefyd ddarganfod tystiolaeth bod Shores Seafood wedi cyflenwi cynhyrchion i fusnesau sawl gwaith ers i’r busnes gael ei wahardd rhag gwneud hynny.

Cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl ar yr adeg hon hefyd o ganlyniad i wybodaeth a ddarparwyd gan Gyngor Sir Penfro, i sicrhau nad oedd unrhyw gynhyrchion yn parhau i fod ar werth.

O ganlyniad i’r troseddau, dedfrydwyd Colin Brown i naw mis o garchar, wedi’u gohirio am ddwy flynedd, a mynnwyd ei fod yn cwblhau 200 o oriau o waith di-dâl hefyd. Dedfrydwyd Donna Brown i chwe mis o garchar wedi’u gohirio am ddwy flynedd, gyda gofyniad i wneud 15 niwrnod o Weithgarwch Adsefydlu.

Rhoddwyd Gorchmynion i Colin Brown a Donna Brown sy’n eu gwahardd rhag rheoli busnes bwyd am gyfnod amhenodol. Dywedodd y barnwr fod hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur.

Wrth grynhoi, dywedodd y Barnwr Walters fod ffeithiau’r achos yn ‘annymunol iawn a bod yr Awdurdod Lleol yn ymwneud ag ymgyrch cath a llygoden gyda’r busnes’.

Mynegodd y Barnwr Walters bryder hefyd ynglŷn â’r lefelau uchel o Listeria monocytogenes a amlygwyd yng nghynhyrchion y busnes. Pwysleisiodd nad mater dibwys yw hylendid bwyd ac mai ei ddiben yw diogelu iechyd cyhoeddus.

Canmolwyd camau gweithredu’r Cyngor Sir hefyd, oherwydd cydnabuwyd bod swyddogion wedi ymdrechu’n drwyadl i geisio sicrhau cydymffurfedd er bod y busnes yn parhau i fasnachu’n anghyfreithlon.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol, y Cynghorydd Michelle Bateman: “Mae’n galonogol bod y Llys wedi rhoi dedfrydau sylweddol, gan gynnwys y gwaharddiad ar reoli busnes bwyd yn y dyfodol, i’r ddau unigolyn a barhaodd i gynnal y busnes hwn yn fwriadol er eu bod yn destun hysbysiadau a roddwyd gan swyddogion y Cyngor i ddiogelu defnyddwyr.

“Roedd y troseddwyr wedi llwyr anwybyddu iechyd unrhyw unigolyn a oedd yn bwyta eu cynhyrchion, er eu bod yn ymwybodol o hanes halogiad eu cynhyrchion ag Listeria monocytogenes.

“Gwnaethant hefyd anwybyddu’r gwaharddiadau a osodwyd arnynt gan yr Awdurdod ac roedd ganddynt reolaethau annigonol ar waith i atal cynhyrchion rhag cael eu halogi â’r bacteria peryglus iawn hyn.

“Mae Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro yn benderfynol o sicrhau bod unigolion sy’n cyflawni troseddau difrifol neu sy’n dangos agwedd ddidaro at gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd a safonau yn cael eu dwyn o flaen eu gwell.

“Mae’r adran hefyd wedi ymrwymo i sicrhau cydymffurfedd er mwyn diogelu iechyd pobl sy’n bwyta cynhyrchion a gynhyrchir ac a werthir gan fusnesau o Sir Benfro.

Nodiadau i olygyddion

Nodyn i Olygyddion:

Mae listeriosis yn gallu achosi amrywiaeth o symptomau, sy’n gallu amrywio o symptomau ysgafn fel salwch tebyg i’r ffliw yn y rhan fwyaf o bobl i facteremia, septisemia a llid yr ymennydd mewn pobl sydd â system imiwnedd wannach. Gall menywod beichiog ddioddef camesgoriad a marw-enedigaeth hefyd. Mae listeriosis yn achosi cyfradd uchel o dderbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau ymhlith pobl mewn grwpiau agored i niwed o gymharu â heintiau bacteriol eraill a gludir mewn bwyd.