
Canmol ymroddiad Tîm Iechyd Anifeiliaid ar ôl achos llys cymhleth
Dedication of Animal Health Team commended after conclusion of complex court case
Mae ymdrechion Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Penfro wedi eu hamlygu ar ôl cwblhau achos lles anifeiliaid hir a chymhleth.
Ymddangosodd Richard Scarfe o Stryd y Parc, Doc Penfro, a Brogan Scarfe o Woodbine Terrace, Penfro, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 12 Mai i'w dedfrydu, ar ôl pledio'n euog i droseddau o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Cyfaddefodd y tad a'r ferch eu bod wedi achosi dioddefaint diangen i foch, defaid, dofednod a chŵn, rhwng 25 Ionawr 2022 a 18 Ebrill 2023.
Roedd Richard Scarfe eisoes wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid.
Dedfrydwyd Richard Scarfe i garchar am 11 mis gan y Ei Hanrydedd y Barnwr Catherine Richards.
Roedd torri'r gorchymyn anghymhwyso yn golygu mai'r man cychwyn oedd ei gymryd i’r ddalfa ar unwaith, ond roedd y barnwr yn pryderu am effaith y ddedfryd ar eraill sy'n ddibynnol arno ac felly cafodd ei gohirio am 12 mis.
Derbyniodd Richard Scarfe hefyd orchymyn anghymhwyso am oes rhag cadw a pherchen ar anifeiliaid, ymwneud â chadw anifeiliaid a bod yn rhan o drefniant a fyddai’n golygu bod ganddo hawl i reoli neu ddylanwadu ar y ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu cadw.
Mae'r anghymhwysedd hwn yn cwmpasu pob anifail ac mae i aros mewn grym am oes heb hawl i wneud cais i’w derfynu am 10 mlynedd.
Gorchmynnwyd Richard Scarfe hefyd i gwblhau 200 awr o waith di-dâl, gofyniad triniaeth iechyd meddwl 12 mis a gofyniad gweithgaredd adsefydlu 15 diwrnod.
Cafodd Brogan Scarfe ei hanghymhwyso rhag bod yn berchen ar anifeiliaid a hynny wedi’i gyfyngu i foch, defaid, gwartheg, adar a chŵn. Ni chaiff cadw’r anifeiliaid a restrir, ymwneud â chadw’r anifeiliaid a restrir na bod yn rhan o drefniant a fyddai’n golygu bod ganddi hawl i reoli neu ddylanwadu ar y ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu cadw.
Mae'r gorchymyn anghymhwyso hwn i aros mewn grym am bum mlynedd heb hawl i wneud cais i’w derfynu am dair blynedd.
Cafodd Brogan Scarfe hefyd ei ddedfrydu i Orchymyn Cymunedol am 12 mis, gyda 100 awr o waith di-dâl.
Wedi i’r achos ddod i ben, dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cynllunio a Rheoleiddio: "Mae'r tîm iechyd anifeiliaid yn darparu cymorth a chyngor i ffermwyr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol, ac ar ddechrau'r achos hwn, cynigiwyd canllawiau. Fodd bynnag, yn sgil torri’r canllawiau dro ar ôl tro nid oedd unrhyw ddewis i’r cyngor ond cymryd camau ffurfiol i sicrhau lles yr anifeiliaid.
“Ymgynghorwyd â milfeddygon i gael eu barn arbenigol, a ardystiwyd bod yr anifeiliaid yn dioddef, a chyflwynwyd tystysgrif yn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu hatafaelu i'w hamddiffyn o dan adran 18 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2006.
“Mae hwn wedi bod yn achos hir a chymhleth, gydag achosion sifil a throseddol yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Mae anifeiliaid yn nodwedd gref a balch iawn o fywyd Sir Benfro, ac mae swyddogion iechyd a lles anifeiliaid y cyngor yn haeddu llawer o glod am eu hymrwymiad i sicrhau diogelwch anifeiliaid ac i ddod â'r achos trist hwn i ben.”