Ymroddiad staff yn amlwg wrth i'r Gwasanaethau Cymdeithasol wynebu galw cynyddol
Dedication of staff shines through as Social Services face growing demand
Mae'r galw cynyddol ar adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro ac ymroddiad y gweithlu wedi'u nodi mewn adroddiad blynyddol.
Mae Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023-24, yn nodi’n fanwl sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio i wella llesiant y rhai sydd wedi manteisio ar wasanaethau Cyngor Sir Penfro.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun a thalodd Aelodau'r Cabinet deyrnged i'r staff sydd wedi bod yn ymdopi â chynnydd yn y galw a phwysau ariannol digynsail.
Pwysleisiodd Aelodau'r Cabinet hefyd bwysigrwydd canolbwyntio’n barhaus ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel.
Mae'r adroddiad yn nodi bod adnoddau ychwanegol sylweddol wedi’u gosod yn y tîm asesu gofal plant i ymdrin ag achosion sy'n ymddangos wrth ddrws y ffrynt, yn aml â sefyllfaoedd diogelu cymhleth.
Mae'r adroddiad yn nodi bod nifer y bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod wedi cynyddu o 127 ym mis Mawrth 2017 i 257 ym mis Mawrth 2024. Mae hyn hefyd wedi arwain at gynnydd mawr yng nghost lleoliadau y tu allan i'r sir.
Mae eiddo wedi ei brynu yn Sir Benfro i ddarparu datrysiad mwy cost-effeithiol i ddiwallu anghenion gofal plant a phobl ifanc a’u galluogi i aros yn agos at eu cymuned gartref ac mae datrysiadau llety mewnol eraill yn cael eu hystyried.
Roedd cyfanswm y bobl a wnaeth gysylltu â’r gwasanaethau i oedolion yn 2023/24 9% yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys 4,395 o gysylltiadau newydd.
Dywedodd Mr Gray: "Yn gyffredinol, mae'r galw am wasanaethau yn cynyddu ac mae gan bobl sy'n dod atom ni am ofal a chymorth amrywiaeth o anghenion sy'n gofyn am ymateb gennym ni a'n cydweithwyr yn y GIG.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau ein dull o ymyrryd yn gynnar ac atal. Fodd bynnag, mae hyn yn gynyddol anodd gan ein bod yn hwynebu heriau ariannol sylweddol a gweithlu dan bwysau sylweddol."
Mae'r adroddiad yn nodi bod ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o weithio wedi cael eu datblygu, wrth ymdrechu i wella canlyniadau i bobl drwy eu cefnogi i fyw'r bywydau y maen nhw’n eu dymuno.
Ychwanegodd Mr Gray: "Hoffwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn adrannau’r gwasanaethau cymdeithasol a'r partneriaid sy'n ein cefnogi ni am yr ymrwymiad enfawr y maen nhw wedi'i ddangos i'r trigolion hynny yr ydyn ni’n eu cefnogi."
Mae'r adroddiad ar gael yma: (Yn agor mewn ffenestr newydd)