Dirprwy Weinidog yn clywed am gefnogaeth ysgol ar gyfer cydraddoldeb
Deputy Minister hears of school’s support for equality
Fe wnaeth Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru ymweld ag Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yr wythnos diwethaf i drafod sut mae'r ysgol yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
Croesawodd y Pennaeth, Jane Harries, Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, ddydd Iau, 28 Medi.
Fe wnaeth Ms Blythyn gyfarfod â'r Cynghorydd Guy Woodham, Aelod Cabinet dros Addysg, Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg, cynrychiolwyr UNSAIN ac aelodau staff a disgyblion sy'n ymwneud â fforwm disgyblion Tegwch ac Amrywiaeth CSP a Chlwb Enfys yr ysgol.
Roedd Ms Blythyn wedi gofyn am yr ymweliad ar ôl i Dan Phillips, Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu yn yr ysgol, roi cyflwyniad i Gyd-gyngor Cymru lle bu'n sôn am y gefnogaeth a roddodd yr ysgol iddo yn ystod ei gyfnod pontio rhwng y rhywiau.
Rhannodd y staff a'r disgyblion gyda Ms Blythyn yr heriau yn y gymdeithas ynghylch cydraddoldeb i bawb a sut roedd yr ysgol yn eu cefnogi i ddelio â'r heriau hyn.
Roedd Ms Blythyn a'r gwesteion yn awyddus i drafod sut y gallai Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Lleol helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Dywedodd Mrs Harries: "Roedd hi'n fraint cael croesawu'r Dirprwy Weinidog i Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd. Rydym yn hynod falch bod Ms Blythyn wedi gofyn yn benodol am yr ymweliad ar ôl clywed am brofiad cadarnhaol Mr Phillips.
"Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i bawb ac roedd yn wych i ddisgyblion a staff allu amlinellu'r gefnogaeth sydd ar gael yma yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd."
Ychwanegodd y Cynghorydd Woodham: "Roedd yn bleser mynychu Ysgol Uwchradd Hwlffordd, ochr yn ochr â'r Dirprwy Weinidog, a chael cyfle i siarad â Mr Philips ac aelodau o Glwb Enfys yr ysgol.
"Mae dysgu am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig gan y rheiny sydd â phrofiadau bywyd, yn bwysig nid yn unig i'n dysgwyr ond i bob un ohonom.
"Rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaed yn y maes hwn gan Ysgol Uwchradd Hwlffordd ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol agos, ochr yn ochr ag eraill gobeithio, sydd hefyd yn datblygu'r maes pwysig hwn o weithgarwch."