English icon English
Deputy PM visit 5 - Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld ag 5

Y Dirprwy Brif Weinidog yn cael gwybod am lwyddiannau cymorth i fusnesau Sir Benfro

Deputy PM told of Pembrokeshire business support successes

Yr wythnos diwethaf, cafodd y Dirprwy Brif Weinidog weld y cymorth sy’n cael ei gynnig i fusnesau lleol gan Gyngor Sir Penfro a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Ddydd Mercher 21 Awst, ymwelodd y Gwir Anrhydeddus Angela Rayner AS â Chanolfan Arloesedd y Bont (BIC) yn Noc Penfro, sy’n cael ei chynnal gan y Cyngor, i gwrdd â phobl leol sydd wedi cael cymorth drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gefnogi datblygu eu busnesau, creu swyddi a’u diogelu.

Cafodd Ms Rayner ei chroesawu i Ganolfan Arloesedd y Bont gan Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller.

Deputy PM visit 1 - Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld ag 1

Aeth Rachel Moxey, Pennaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio’r Cyngor, a’r Rheolwr Datblygu Busnes, Peter Lord, gyda Ms Rayner wrth iddi gwrdd â chyfres o bobl fusnes.

Yn eu plith roedd Claire Garland o The Pembrokeshire Cheesecake Company.

Deputy PM visit 4 - Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld ag 4

Gyda chymorth tîm busnes y Cyngor, llwyddodd Claire i fanteisio ar gyllid i helpu i brynu uned oeri ar gyfer ei cherbyd, er mwyn ei galluogi i deithio ymhellach gyda’i danteithion blasus.

Gwnaeth Ms Rayner hefyd gwrdd â Heidi Reynolds o Dale Sailing. Cafodd y busnes adeiladu cychod hwylio a gwasanaethau morol teuluol gymorth i brynu symudwr cychod arbenigol, gan greu tair swydd a diogelu saith arall.

Yn cwrdd â Ms Rayner hefyd roedd Jade Rixon sydd wedi cael cymorth busnes i ymgymryd â chontract arlwyo, Sean Lade o Easy Garden Irrigation a gafodd grant ar gyfer meddalwedd a gwelliannau i’r warws a Sarah Evans o Jackland Leisurewear, a gafodd arian tuag at beiriant brodwaith.

Deputy PM visit 3 - Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld ag 3

Treuliodd Ms Rayner, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, amser yn siarad â’r busnesau, gan ddysgu mwy am eu profiadau, eu llwyddiannau a’u heriau.

Dywedodd y Cynghorydd Harvey: "Roedd yn anrhydedd croesawu’r Dirprwy Brif Weinidog i Ganolfan Arloesedd y Bont ac iddi gael cwrdd â’n tîm cymorth busnes gwych a nifer bach o’r busnesau lleol gwych sydd wedi cael cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

"Fel Cyngor, rydyn ni wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn gosod y sylfeini ar gyfer buddsoddi a swyddi yn y Sir ac roedden ni’n gallu egluro pwysigrwydd cyllid fel Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i fusnesau lleol.

Deputy PM visit 2 - Dirprwy Brif Weinidog yn ymweld ag 2

"Mae hyn yn cynnwys busnesau newydd sydd angen cymorth hyd at fusnesau mwy sefydledig sy’n ystyried cymryd y camau nesaf yn eu twf a’u datblygiad, gyda chefnogaeth ein timau.

"Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gall ein timau eich helpu chi a’ch busnes, mae digwyddiad cymorth busnes galw heibio yn cael ei gynnal ddydd Gwener olaf pob mis yng Nghanolfan Arloesedd y Bont."