English icon English
tynnu rhaff

Digwyddiad lles a gweithgarwch corfforol yn Ysgol Bro Preseli

Wellbeing and physical activity event at Ysgol Bro Preseli

Roedd gweithgareddau newydd yn cynnwys aikido, ioga a thynnu rhaff wedi eu cynnwys mewn digwyddiad lles a gweithgarwch corfforol diweddar i ferched Blwyddyn 8 Ysgol Bro Preseli.

Wedi’i drefnu gan Chwaraeon Sir Benfro mewn partneriaeth â'r ysgol a chlybiau lleol, mynychodd dros 60 o ddisgyblion y digwyddiad.

Diolchodd Elgan Vittle, Swyddog PIE (Pobl Ifanc Egnïol) Chwaraeon Sir Benfro, y sefydliadau am gefnogi'r digwyddiad a dywedodd bod y sylwadau gan ddisgyblion wedi bod yn wych.

“Roedd rhai yn bryderus am weithgareddau newydd, ond mae'r adborth i gyd wedi bod yn gadarnhaol gyda'r grŵp blwyddyn gyfan yn cymryd rhan yn frwdfrydig, â gwên ar wynebau pawb. Gyda'r cyflwyniad hwn gobeithiwn y bydd gan rai o'r merched yr hyder a'r cymhelliant i barhau â'r gweithgareddau hyn yn y gymuned.”

Mae'r tîm PIE hefyd wedi trefnu digwyddiadau tebyg eleni, (gyda dros 200 o ferched yn cymryd rhan hyd yma) yn Ysgol Harri Tudur ac Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, ac yn cynllunio digwyddiad arall gydag Ysgol Gyfun Aberdaugleddau yn nhymor yr haf.

Bu llysgenhadon ac arweinwyr ifanc yn helpu i arwain y digwyddiad, gan gynnwys Ffion Ouseley, Llysgennad Ifanc Aur.

* Mae Chwaraeon Sir Benfro yn hyrwyddo cysylltiadau clwb ysgol ar draws y sir – Cysylltwch â Rominy.colville@pembrokeshire.gov.uk os hoffai eich ysgol neu glwb gymryd rhan

Llun:

Yn y llun mae rhai o’r disgyblion yn cymryd rhan yn y gweithgaredd Tynnu Rhaff.