English icon English
staff canolfannau hamdden

Diolch i staff canolfan hamdden am eu gweithredoedd achub bywyd

Diolchwyd i staff Cyngor Sir Penfro a helpodd i achub bywydau cwsmeriaid wnaeth ddioddef trawiad ar y galon mewn dau ddigwyddiad gwahanol am eu gweithredoedd hollbwysig.

Gwahoddwyd staff Canolfan Hamdden Penfro Courtney Picton, Emily Baker, Chris Hughes a Katherine Mackie, ynghyd â Melissa Wright a Darren Bowen o Ganolfan Hamdden Hwlffordd, i dderbyniad yn Neuadd y Sir i gydnabod eu hymdrechion achub bywydau.

Diolchwyd i'r tîm gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett, y Prif Weithredwr Will Bramble a'r Rheolwr Gwasanaethau Hamdden, Gary Nicholas.

Roedd Courtney, Emily a Chris ar ddyletswydd ddydd Gwener Chwefror 3ydd yng Nghanolfan Hamdden Penfro pan ddioddefodd gŵr bonheddig ataliad y galon wrth nofio.

Roedd Katherine hefyd yn y ganolfan tra nad oedd ar ddyletswydd.

Aeth aelodau'r staff ati i weithredu, gyda chymorth diffoddwr tân oddi ar ddyletswydd a pharafeddyg wedi ymddeol a oedd hefyd yn mwynhau nofio ben bore.

Rhyngddynt fe wnaethant weinyddu CPR ac adalw a defnyddio diffibriliwr.

Dywedodd y Cynghorydd Sinnett: “Roedd eich gweithredoedd cyflym, pwyllog ac effeithlon yn wirioneddol ragorol.

“Chwaraeodd eich ymdrechion cyfunol wrth nodi'r mater a rhoi eich holl sgiliau hyfforddedig ar waith ran sylweddol wrth achub bywyd y dyn hwn.

“Fe wnaeth y ffordd y gwnaethoch chi i gyd chwarae eich rhan, gyda Katherine yn cynorthwyo tra'n bod yn y ganolfan fel aelod o'r cyhoedd, ddangos sut y gwnaeth gwaith tîm gwych sicrhau bod y gŵr bonheddig yn cael y cyfle gorau posibl i oroesi.

“Dylech chi i gyd fod yn falch iawn o'ch gweithredoedd a derbyniwch fy niolchgarwch twymgalon am y camau a gymerwyd gennych chi i gyd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett: “Rwy'n deall bod yr unigolyn wedi dychwelyd i'r ganolfan hamdden ers hynny ac wedi dechrau ar raglen adsefydlu cardiaidd cam 3 — canlyniad gwych.”

Diolchwyd i Melissa a Darryl am eu rhan wrth fynd i gymorth aelod o'r cyhoedd a ddioddefodd drawiad ar y galon wrth fynychu dosbarth Adsefydlu Cardiaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Sinnett: “Roedd bod o dan eich goruchwyliaeth chi’n sefyllfa lwcus iawn.

“Dywedwyd wrthyf fi eich bod chi wedi rheoli'r sefyllfa'n broffesiynol a bod yr unigolyn wedi’i gadw’n ddi-gyffro ac yn gyfforddus drwy gydol y digwyddiad. Diolch yn fawr am eich gweithredoedd.”

Meddai Gary Nicholas, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden y Cyngor: “Hoffwn ychwanegu fy niolch i'r cydweithwyr a roddodd eu hyfforddiant ar waith ac a helpodd i achub bywydau'r ddau ddyn dan sylw.

“Er ein bod ni i gyd yn gobeithio na fydd gan ein staff byth reswm i ddefnyddio cymorth cyntaf, perfformio CPR na defnyddio diffibriliwr, rydym ni’n hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn fel bod ganddynt y sgiliau i roi'r cyfle gorau i bobl fyw.

“Rwy'n falch iawn o sut yr ymatebodd pob un ohonyn nhw.”

Capsiwn

Diolchwyd i Courtney Picton, Emily Baker, Chris Hughes, Katherine Mackie, Melissa Wright a Darren Bowen gan y Cynghorydd Rhys Sinnett, Will Bramble a Gary Nicholas. Hefyd yn y llun mae Rheolwr Safle Canolfannau Hamdden Lisa Starkey a Darryl Sable.