Youngsters from St Francis School in Milford Haven were captivated by Waterstones Children’s Laureate Joseph Coelho.

Ewch i’ch llyfrgell leol yn ystod yr Wythnos Ddarllen Genedlaethol

Discover your local library this National Reading Week

Rhannu:

Gwahoddir y cyhoedd yn Sir Benfro i fynd i’w llyfrgell leol yn ystod Wythnos Ddarllen Genedlaethol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, a gynhelir o heddiw (dydd Llun) i ddydd Sadwrn 3 Hydref 2026.

Mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru yn dathlu'r rôl hanfodol sydd ganddynt wrth gefnogi darllen a darparu mannau croesawgar a hygyrch i bobl archwilio llyfrau, defnyddio cyfrifiaduron ac e-adnoddau, datblygu sgiliau a chysylltu â'u cymuned leol.

Maent yn ategu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhaliwyd dros y misoedd diwethaf, a oedd yn cynnwys gweithgareddau Sialens Ddarllen yr Haf a sgyrsiau ar gyfer sawl dosbarth ysgol.

Mae'r amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn cynnwys sgyrsiau gan awduron, sesiynau amser rhigwm a digon o ddigwyddiadau cymunedol eraill, fel Gwau a Sgwrs, Clybiau Lego, Grwpiau Llyfrau a llawer mwy!

Library books

Mae'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac wedi'u cynllunio i helpu i ysbrydoli pobl i ddarganfod llawenydd a manteision darllen ac i feithrin ymdeimlad o berthyn.

I wybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, ewch i'r adran Digwyddiadau ar wefan Llyfrgelloedd Cymru (cliciwch ar y sir a'r mis) neu edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol lleol: https://llyfrgelloedd.cymru/digwyddiadau

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae'n wych bod Llyfrgelloedd Sir Benfro yn cymryd rhan ac yn tynnu sylw at y math o weithgareddau maen nhw'n eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.

"Mae grwpiau sy'n cwrdd yn rheolaidd yn y llyfrgell yn helpu i annog pobl i ymweld dro ar ôl tro, sy'n achos dathlu. Ni ddylid tanamcangyfrif pwysigrwydd llyfrgelloedd wrth ysgogi llythrennedd ac annog darllen er pleser, ar gyfer pob oedran."

Mae’r Wythnos Ddarllen yn rhan o Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol y DU 2026, sydd â’r nod o annog pobl o bob oed i ddatblygu cariad at ddarllen er pleser ac elwa o'r effaith gadarnhaol y gall ei chael ar eu haddysg, eu lles, eu creadigrwydd a'u dysgu gydol oes.

Anogir darllen o bob math – llyfrau, e-lyfrau, llyfrau sain, adrodd straeon a mwy.

Dewch o hyd i'ch llyfrgell leol yn Sir Benfro, ewch yno a mwynhewch: Am fanylion gweler:

https://www.sir-benfro.gov.uk/llyfrgelloedd-a-diwylliant