Disgyblion Coastlands yn syfrdanu cynulleidfa ar daith i Disneyland Paris
Coastlands pupils wow at Disneyland Paris trip
Bu disgyblion Ysgol CP Coastlands yn morio canu gan syfrdanu cynulleidfa yn Disneyland Paris yn ddiweddar.
Aeth 73 o ddisgyblion ar lwyfan y Theatr Videopolis, rhan o Gelfyddydau Perfformio Disney, sy’n rhoi cyfle i grwpiau weithio gyda thechnegwyr Disney a phrofi’r wefr o fod ar lwyfan proffesiynol.
Safodd y gynulleidfa ar eu traed i gymeradwy’r plant ar ôl eu perfformiad ddydd Iau, 2il Mawrth a chanmolwyd ansawdd y canu ac ymddygiad gwych y plant gan staff Disney.
Dywedodd y Pennaeth Sonja Groves fod y plant, rhwng 5 ac 11, yn llysgenhadon hyfryd dros Sir Benfro.
“Dywedodd staff Disney ei bod yn anghyffredin iawn i blant mor ifanc â phump oed gyrraedd y safon ofynnol i berfformio yno. Gwnaethon nhw ganu’n wych, roedden nhw’n anhygoel. Dydy dweud fy mod yn byrstio â balchder ddim yn gor-ddweud.
“Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl o wahanol wledydd yn ein cefnogi ac yn ein cymeradwyo ni ac roedd yn anhygoel faint o ganmoliaeth a gefais ar ran y grŵp,” dywedodd Mrs Groves.
Roedd eu perfformiad eclectig o wyth cân gan gynnwys Sosban Fach a chaneuon o Encanto yn dilyn llawer o ragbrofion trylwyr.
Aeth tua 230 o bobl ar y daith pum diwrnod wrth i rieni, brodyr a chwiorydd a pherthnasau eraill ddod gyda’r plant, a wnaeth hefyd fwynhau taith gofiadwy i’r parc adloniant byd-enwog.
Gweithiodd yr ysgol yn galed i godi arian ar gyfer y daith – cafodd hwdis a chrysau-t perfformio y plant eu noddi gan Valero – a chynhaliwyd nosweithiau cyri, bingo a disgo, taith gerdded a sesiwn glanhau traeth, raffl gyda rhoddion hael gan y gymuned.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol CP Coastlands sydd wedi gweithio mor galed wrth baratoi ar gyfer eu perfformiad gwych yn Disneyland Paris.
“Roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes a gall pawb fod yn falch iawn o’u hunain.”