English icon English
Ei Uchelder Brenhinol Dywysoges Frenhinol gyda phlant o Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac asynnod Treginnis.

Disgyblion Doc Penfro yn mwynhau aros ar fferm gydag ymwelydd Brenhinol arbennig

Pembroke Dock pupils enjoy farm stay with special Royal visitor

Yn rhan o drip preswyl blynyddol i fferm fwyaf gorllewinol Cymru cafwyd gwestai arbennig iawn y mis hwn wrth i'w Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol ymweld.

Mwynhaodd disgyblion Blwyddyn chwech o Ysgol Gymunedol Doc Penfro wythnos o arhosiad ar Fferm Treginnis Isaf, profiad blynyddol sy’n gyfle anhygoel i brofi bywyd gwledig.

Yn ystod yr ymweliad eleni ymunodd noddwr Farm for City Children, y Dywysoges Frenhinol, â'r disgyblion ac fe wnaeth Erin Hubbard a Jack Kinnard gyflwyno rhodd i'w Huchelder Brenhinol cyn iddi adael.

HRH Princess Royal 6

Dywedodd y pennaeth Michele Thomas: "Mae'r profiad yn Nhreginnis yn rhoi parch dwfn iddynt at fywyd gwledig ac maen nhw’n datblygu sgiliau annibynnol da o'r eiliad y maent yn cyrraedd.  Mae disgyblion wedi dangos gwytnwch aruthrol wrth gyflawni tasgau a herio eu hunain i roi cynnig ar bethau newydd.

“Mae ymweliad â'r fferm, lle maen nhw'n cymryd rhan ym mywyd y fferm yn brofiad bywyd ac mae'r disgyblion yn creu cyfeillgarwch cryf parhaol â’i gilydd ac atgofion. Yn ogystal â hyn, roedd yn anrhydedd llwyr i'r staff a'r plant fod yn rhan o'r Ymweliad Brenhinol, a bydd yn rhywbeth na fyddant yn ei anghofio."

HRH Princess Royal

Tra bod disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau dysgu gyda thîm Fferm Treginnis Isaf, dangoswyd i Ei Huchelder Brenhinol beth oeddent yn ei ddarganfod am y broses o'r fferm i'r fforc, cyn cael gwybod am effaith wythnos Farms for City Children i'r rhai a oedd yn mynychu.

Ychwanegodd athrawes Blwyddyn Chwech, Nicola Davies: "Mae'r plant wedi bod yn mwynhau ymweliad gwych â'r fferm ac wedi bod yn dysgu cymaint am natur, gweithio ar fferm a bywyd gwledig yn gyffredinol. Mae cael ein hanrhydeddu ag ymwelydd mor arbennig hefyd wedi bod yn anhygoel."  

Erin ac Jack

Dywedodd Tim Rose, Pennaeth Gweithrediadau Farms for City Children: "Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Dywysoges Frenhinol i Dreginnis Isaf a rhannu'r profiad o fod yn 'ffermwyr am wythnos' gyda hi. Mwynhawyd ei hymweliad yn fawr gan bawb ar y fferm ac roedd yn bleser gennym allu dangos iddi sut mae gwaith yr elusen yn cyd-fynd â chymaint o wahanol agweddau ar gymuned Sir Benfro.

“Rydym yn hynod werthfawrogol o gefnogaeth a brwdfrydedd parhaus Ei Huchelder Brenhinol am y gwaith rydyn ni'n ei wneud."

HRH Princess Royal 4

Cyfarfu'r Dywysoges Frenhinol hefyd â chynrychiolwyr o Gyfeillion Treginnis, sy'n cefnogi ymweliadau gan ysgolion lleol, a chynrychiolwyr o Car-y-Môr, menter fferm gwymon o Dyddewi.

dosbarth gwymon