English icon English
Children and families playing

Diwrnod Chwarae Sir Benfro yn dathlu croesawu mwy o bobl nag erioed o’r blaen

Playday Pembrokeshire celebrates record turn out

Daeth dros 2,500 o blant, pobl ifanc a theuluoedd i fwynhau diwrnod o hwyl, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol yn Niwrnod Chwarae Sir Benfro yn Llys-y-Frân yn gynharach y mis hwn.

Cafodd y diwrnod cenedlaethol sy'n dathlu pwysigrwydd chwarae i ddatblygiad plant ei gydlynu gan Gyngor Sir Penfro a'i gefnogi gan sefydliadau a grwpiau cymunedol o bob rhan o'r sir.

Bu’r plant yn mwynhau saethyddiaeth, sgiliau syrcas, rasio trychfilod gwallgof, pêl-droed hwyliog, adeiladu tai, dringo, crefft, celf a llawer mwy.

“Rydym wrth ein bodd â llwyddiant Diwrnod Chwarae Sir Benfro 2024. Roedd yn galonogol gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau eu hunain ac yn croesawu cyfle i chwarae. Gwnaeth y digwyddiad amlygu pwysigrwydd chwarae wrth feithrin creadigrwydd, dysgu a chreu cysylltiadau cymunedol.

Playday 2

“Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd i wneud y digwyddiad yn un llwyddiannus, gan gynnwys gwirfoddolwyr a chyfranogwyr. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r traddodiad hwn a gwneud Diwrnod Chwarae'r flwyddyn nesaf hyd yn oed yn fwy cofiadwy," meddai Alys Lewis, Swyddog Chwarae Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd Mark Hillary a Clare Sturman o Lys-y-Frân eu bod yn falch iawn o fod yn rhan o'r diwrnod. "Rydym yn hynod falch o gynnal y digwyddiad gwych hwn ochr yn ochr â Chyngor Sir Penfro."

Sefydlwyd y Diwrnod Chwarae ym 1987 ac mae'n cael ei gynnal mewn lleoliadau ledled y DU ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Mae'n ymgyrch barhaus sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant, gan ganolbwyntio ar fater penodol bob blwyddyn.