Diwrnod Iechyd a Lles Merched yn ysbrydoli ffyrdd o fyw egnïol
Girls’ Health and Wellbeing Day inspires active lifestyles
Cynhaliwyd Diwrnod Iechyd a Lles i Ferched llwyddiannus yn ddiweddar i fyfyrwyr Blwyddyn 8 o Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau, gan ddod â 35 o gyfranogwyr brwdfrydig at ei gilydd ar gyfer diwrnod sy'n ymroddedig i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, iechyd a lles gydol oes.
Chwaraeodd sefydliadau cymunedol lleol ran hanfodol wrth gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau golff gyda Chlwb Golff Aberdaugleddau, gweithgareddau ffitrwydd a hamdden gan Hamdden Sir Benfro, a chyfleoedd chwaraeon dan arweiniad Tîm Ieuenctid Sir Benfro, Merched mewn Pêl-droed, Pêl-fasged Tritons, hoci a gynhaliwyd gan Glwb Hoci Abergwaun ac Wdig a Chlwb Tenis Hwlffordd, a gyflwynodd pêl-bicl i’r merched.
Nod y diwrnod oedd annog merched i fod yn egnïol, meithrin cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon, a thynnu sylw at bwysigrwydd iechyd a lles trwy weithgarwch corfforol.
Yn ogystal, canolbwyntiodd y digwyddiad ar greu cysylltiadau cryf rhwng ysgolion a chlybiau chwaraeon lleol.
Yn cefnogi cyflwyno'r digwyddiad yn ddidrafferth, roedd Llysgenhadon Chwaraeon Ifanc, a gynorthwyodd gyda chydlynu ac annog cyfranogwyr trwy gydol y dydd.
Roedd adborth o'r sesiynau yn hynod gadarnhaol, a llawer o’r merched yn mynegi cyffro am barhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a lles.
Roedd Valero yn falch o noddi’r digwyddiad a chafwyd rhoddion hael gan Hair Syrup, Princes Gate Water, a nwyddau gan Street Games Us Girls.