Atgoffa trigolion am reolau trwydded lletya cŵn yn y cartref
Dog home boarders reminded about licence rules
Mae Cyngor Sir Penfro yn atgoffa unrhyw un sy'n darparu gwasanaethau lletya cŵn yn eu cartref neu wasanaethau gofal dydd i gŵn am dâl y bydd angen trwydded arnynt gan eu hawdurdod lleol.
Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n hysbysebu trwy wefannau fel Rover, y cyfryngau cymdeithasol, neu sianeli anffurfiol eraill.
Mae lletya cŵn yn y cartref yn golygu gofalu amdanynt mewn lleoliad domestig yn hytrach na mewn cytiau cŵn.
Er bod cyfryngau ar-lein wedi ei gwneud yn haws i berchnogion anifeiliaid anwes ddod o hyd i ofalwyr, rhaid i unrhyw un sy'n gweithredu busnes lletya cŵn neu ofal dydd gydymffurfio â gofynion lles anifeiliaid a thrwyddedu.
Rhaid i weithredwyr trwyddedig fodloni safonau sydd wedi'u cynllunio i ddiogelu lles anifeiliaid.
Mae'r rhain yn cynnwys llety, glendid, ymarfer corff, atal clefydau, cadw cofnodion, gweithdrefnau brys a chyfyngiadau ar nifer y cŵn y ceir gofalu amdanynt ar unrhyw adeg.
Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sy'n cynnig gwasanaethau lletya cŵn neu ofal dydd ar hyn o bryd i wirio a oes angen trwydded arnynt ac i gysylltu â'r Cyngor am gyngor os nad ydynt yn siŵr.
Anogir perchnogion anifeiliaid anwes hefyd i wirio bod gan unrhyw un sy'n gofalu am eu ci drwydded ddilys.
Dylai gweithredwyr trwyddedig allu darparu manylion trwydded ac esbonio sut maent yn bodloni safonau lles anifeiliaid.
Pwyntiau allweddol i bobl sy’n lletya cŵn yn eu cartref
- Mae’n rhaid cael trwydded os ydych chi'n darparu gwasanaethau lletya cŵn yn eich cartref neu ofal dydd am dâl.
- Rhaid gofalu am gŵn mewn amgylchedd domestig diogel ac addas.
- Rhaid bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer ymarfer corff, goruchwylio a gofal milfeddygol.
- Rhaid cadw cofnodion ar gyfer pob ci yn eich gofal.
- Rhaid i nifer y cŵn sy'n derbyn gofal beidio â bod yn fwy na'r terfyn a nodir ar y drwydded.
Cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes
Cyn gadael eich ci gyda rhywun sy’n lletya cŵn yn eu cartref, gofynnwch:
- Ydych chi wedi eich trwyddedu gan eich awdurdod lleol?
- Allwch chi ddangos copi o'ch trwydded?
- Pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer ymarfer corff, goruchwylio a thriniaeth filfeddygol?
- Faint o gŵn fydd yn cael gofal yn yr eiddo ar yr un pryd?
Gall unrhyw un sydd angen rhagor o wybodaeth am drwyddedu lletya cŵn yn y cartref e-bostio awelfare@pembrokeshire.gov.uk neu gysylltu â'r Tîm Lles Anifeiliaid ar 01437 764551.