English icon English
Dog on beach - Ci ar y traeth

Atgoffa am gyfyngiadau ar gŵn ar draethau cyn hanner tymor

Dogs on beaches restrictions reminder ahead of half-term

Gyda gŵyl y banc a hanner tymor yn agosáu bydd gan lawer o bobl drefniadau i fynd allan i fwynhau popeth sydd gan Sir Benfro i'w gynnig.

Gyda’n bysedd wedi'u croesi am dywydd da, mae traethau ac arfordir hardd y sir yn siŵr o fod yn brysur.

Atgoffir unrhyw un sy'n bwriadu mynd â'u ffrindiau pedair coes gyda nhw fod cyfyngiadau tymhorol ar gŵn bellach ar waith ar rai o draethau Sir Benfro.

Er bod llawer o draethau Sir Benfro yn croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn, mae rhai cyfyngiadau ar waith rhwng 1 Mai a 30 Medi.

Rhwng y dyddiadau hyn mae gwaharddiadau llwyr ar gŵn ar waith ar draeth y gogledd yn Ninbych-y-pysgod a Thraeth Mawr.

Mae gwaharddiadau rhannol ar gŵn yn Lydstep, traeth Niwgwl a’r cefn cerrig mân, Coppet Hall (gwirfoddol), traeth a phromenâd Saundersfoot, traeth y castell a thraeth y de yn Ninbych-y-pysgod a phromenâd Amroth, Traeth Poppit, gogledd Aberllydan a Dale.

Gallwch weld a lawrlwytho mapiau o'r traethau a'r cyfyngiadau sydd ar waith ar wefan Croeso Sir Benfro.

Mae'r gwaharddiadau ar gŵn yn destun gorfodaeth gyda chosb uchaf o £500 am dorri'r is-ddeddfau.

Ers i'r cyfyngiadau ddod i rym ar 1 Mai mae 26 o hysbysiadau cosb wedi'u cyflwyno.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Rydym yn ffodus iawn i fod â chymaint o draethau lle gall pobl fynd gyda’u hanifeiliaid anwes trwy gydol y flwyddyn.

"Mae cyfyngiadau ar gŵn ar waith ar rai traethau yn ystod cyfnod yr haf er mwyn i bawb allu mwynhau eu hamser ar lan y môr.

"Byddem ni'n gofyn yn gwrtais i bobl ddod i wybod am yr ardaloedd lle gall cŵn ymweld cyn cyrraedd a hefyd dilyn yr arwyddion lleol sydd ar waith.

"Mae'n well gennym bob amser beidio gorfod gorfodi ond bydd gennym dimau sy'n sicrhau bod is-ddeddfau yn ymwneud â chŵn ar draethau yn cael eu dilyn."

Mae cyfyngiadau baw cŵn yn berthnasol i holl draethau Sir Benfro a gofynnir i berchnogion godi baw eu hanifail anwes.