Van county hall - Neuadd y Sir fan

Cŵn wedi'u cymryd ymaith ar ôl i'r perchennog anwybyddu gorchmynion i'w cadw dan reolaeth

Dogs removed after owner ignored orders to keep them under control

Rhannu:

Mae llys wedi gorchymyn bod yn rhaid i gŵn menyw o Dre-fin gael eu cymryd oddi arni ar ôl iddi anwybyddu rhybuddion dro ar ôl tro i reoli ei hanifeiliaid anwes.

Gorfododd ynadon yn Hwlffordd Orchymyn Fforffedu ac Atafaelu ar gŵn Julia Goodgame ar ôl nifer o gwynion am sŵn gan y gymuned leol.

Roedd Goodgame, o Fryn y Derwydd, wedi pledio'n euog yn flaenorol i dorri Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn dilyn erlyniad gan Gyngor Sir Penfro.

Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Iau 11 Rhagfyr i'w dedfrydu a'i rhoi o dan Orchymyn Ymddygiad Troseddol. 

Rhoddodd y llys orchymyn Fforffedu ac Atafaelu ar y cŵn sy'n galluogi swyddogion i gymryd y cŵn o'r eiddo a'u rhoi mewn canolfan lles anifeiliaid gymeradwy i'w hailgartrefu.

Dywedwyd wrth ynadon fod Goodgame wedi cael Rhybudd Gwarchod y Gymuned yn dilyn cwynion ei bod hi wedi methu yn barhaus â rheoli ei chŵn, gan achosi ofn a phryder i eraill yn y gymuned.

Yn dilyn rhagr o gwynion i'r Cyngor, cofnodwyd tystiolaeth gan ddefnyddio The NoiseApp; a chafwyd lluniau, fideos a datganiadau ysgrifenedig gan dystion a oedd yn dangos nad oedd Goodgame yn rheoli'r cŵn o hyd.

O ganlyniad, cyflwynodd y Cyngor Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.

Roedd hwn yn gorchymyn bod Goodgame yn rheoli cyfarth afresymol ei chŵn, cadw'r cŵn y tu mewn pan nad oedd gartref i leihau’r cyfarth uchel, cadw'r cŵn ar dennyn mewn mannau cyhoeddus, rheoli’r cŵn yn ddigonol tra yn yr eiddo a sicrhau bod unrhyw faw cŵn yn cael ei glirio a'i waredu'n briodol yn rheolaidd, a bod unrhyw finiau gwastraff cŵn i'w lleoli i ffwrdd o eiddo cyfagos.

Yn anffodus, parhaodd yr ymddygiad ac fe’i herlynwyd gan y Cyngor am dorri'r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, sy'n cael ei gyflwyno o dan delerau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. 

Roedd Goodgame wedi pledio'n euog i dorri'r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned ym mis Tachwedd 2025.

Rhoddodd ynadon ddirwy o £1000 i Goodgame a gorchmynnodd iddi dalu Gordal Dioddefwr o £400 a £1,200 mewn ffioedd i Gyngor Sir Penfro. 

Gorfododd ynadon y Gorchymyn Ymddygiad Troseddol a'r Gorchymyn Fforffedu ar gyfer y cŵn, ar Goodgame gyda'r nod o atal niwsans pellach i drigolion eraill. 

Bydd unrhyw achos o dorri'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn cael ei gyfeirio yn ôl i'r Llys a all arwain at ddedfryd o garchar.

Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio: "Mae'r Cyngor yn croesawu canlyniad yr achos llys hwn, a oedd yn benllanw gweithredu cydlynol rhwng adrannau gwarchod y cyhoedd a gwasanaethau tai y Cyngor a'r heddlu.

“Mae'n anffodus bod trigolion yr ardal wedi gorfod dioddef cyfnodau hir o anghyfleustra a gofid o ganlyniad i'r sefyllfa, a gobeithio y bydd y sefyllfa nawr wedi cael ei datrys.”

Bydd y sefyllfa yn parhau i gael ei monitro'n agos, a bydd trefniadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod telerau'r Gorchmynion Fforffedu ac Ymddygiad Cymunedol yn cael eu dilyn.