English icon English
20mph sign - Arwydd 20mya

Peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud ar y terfyn 20mya yn eich ardal chi

Don’t miss chance to have a say on 20mph in your area

Mae’r cyfle i ofyn am newidiadau i’r terfynau 20mya yn Sir Benfro yn dod i ben.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn dod a’r cyfle i drigolion ofyn am newidiadau i derfynau 20mya yn eu hardal leol i ben ar 21 Hydref 2024.

Os hoffech chi anfon awgrym (ynghyd â rhesymau dilys) o ran pam y dylai ffordd gael ei heithrio o’r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yn Sir Benfro, bydd y Cyngor yn cofnodi eich adborth ac yn ei adolygu yn unol â’r canllawiau newydd ar gyfer eithriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u darparu.

Noder, er mwyn cofnodi/ystyried eich adborth, bydd angen linell gyntaf eich cyfeiriad a’ch cod post ar y Cyngor.

Bydd hyn yn cynorthwyo swyddogion y Cyngor yn ystod y broses adolygu i sicrhau bod ceisiadau am newid yn cael eu gwneud gan y rhai sy’n byw yn yr un ardal / cymuned y mae’r cais yn cael ei chyflwyno ar ei chyfer.

Sicrhewch fod yr holl fanylion angenrheidiol yn cael eu hanfon i’r cyfrif e-bost canlynol i’w hystyried:

PembsCC20mph@pembrokeshire.gov.uk

Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 21 Hydref yn cael eu cynnwys yn y broses adolygu barhaus.